Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 59. MAI, 1840. Cyf. V. CREDO YR APOSTOLION.—(Parhad o tu dal. ÌOb.) Ac yn Iesu Griat.—Y ddau waith mawr o eiddo Duw, trwy ba rai y mae yn adnabyddus i ni, yw cread- igaeth a phryiiedigaeth, yr hwn sydd newydd neu ail greadigaeth. Yr oedd Mab Duw, fel Duw, gyda y Tad, fel gweithydd y cyntaf; ond fel Duw-ddyn, y mae yn awdwr yr olaf. Y mae Sant Ioan yn dechreu ei Efengyl â'r cyntaf, ac oddiwrth hwnnw y mae yn myned at yr ail. " Yn y dechreuad yr oedd y Gair— trwyddo ef y gwuaethpwyd pob peth." Ond yn adnod 14, y mae y ílall yn cael ei hyspysu : " Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni ;** yr oedd gydag ef babell fel ninnau, wedi eigwneuthur o'r un defnydd. Y mae efe yn ychwanegu, " Yu llawn gras a gwir- ionedd ; ac i'r diben hyn, (fel y canlyn yno,) fel y derbyniom ni oll o'i gyflawnder ef, a gras am ras. A thyma y gwaith mawr hwnnw o greadigaeth newydd. Am hynny y mae y Prophwyd Esay, wrth rag- ddywedyd y gwaith mawr hwn o enau Duw ei hun, yn son am dano yn y geiriau hyn, pen. 51.16. " Fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth S'ion, Fy Nuw ydwyt." Y mae y gwneu- thuriad hwnnw o bobl newydd iddo ei hun yng Nghrist, fel lluniad y nefoedd a'r ddaear. Yn awr, y mae yr adferiad hwn trwy Iesu Grist yn dangos distryw a thrueni dyn trwy y cwymp, y pechod a'r farwolaeth dan ba un y ganwyd ef. Hyn yr ydym yn tybied ein bod yn ei wybod; a da y gallwn, canys yr ydym yn feunyddiol yn profi ffrwy- thau gofidus y gwreiddyn chwerw hẅnnw: ond y gwirionedd ydyw, nid yw y rhan fwyaf o honom wedi ein llwyr argyhoeddi. nid ydym yn ystyried y gagendor honno o drueni i ba un yr ydym wedi syrthio. Pe baem, fe fyddai mwy o lefain yn ein plith, am gymmorth i gael ein tynnu a'n gwared o hono ; fe fyddai y Gwaredwr roawr yma, y Ceidwad yma, o fwy o arferiad ac mewn mwy o barch gennym. Gwnewch ond ystyried, taw hyn sydd yn gwneuthur Cyfryngwr yn angenrhei^iol. Nis gall yr ysgar- iaeth a'r pellder y mae pechod wedi wneuthur rhwng Duw a dyn, gael eu gwneuthur i fynu oud trwy Gyfryngwr, un a ddelo rhyngddynt, fel nad oes yn awr ddim credu yn Nuw y Tad, ond trwy y grediniaeth yma yn Iesu ei Fab; nid oes ym- ddangos heb ddychryn, "ie, heb ddistryw, o flaen Barnwr mor gyf- iawn, ag sydd wedi cael ei anfodd- loni gymmaint, ond trwy gyfryngiad Cymmodwr mor alluog, abl idd ei foddloni a'i heddychu Ac y mae