Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 58. EBRILL, 1840. Cyf. V. CREDO YR APOSTOLION. Yr hyn a ganlyn sydd Gyfieithad o Esponiad yr Archesgob Leighton ar Gredo yr Apostolion, a bwriedir cyhoeddi darn p hono ym rnhob Rhifyn ues ei orphen.. 1 Tim. 3. 9.—" Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur." Fe roddodd yr Apostol esiampl dda i weinidogion yr efengyl, pan y dywedodd, " Ymwnaethnm i'r rhai gweiniaid raegis yn wan, fel yr yn- nillwn y gweiniaid; rai a ymwnaeth- um yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai." Tuag at ymarferiad o'r rheol hynny, y mae yn ofynnol i ymos- twng i ddysgu y rhai mwyaf an- wybodus yn egwyddorion y grefydd Gristionogol. Y peth sydd gennyf mewn golwg yn bresennol yw, rhoddi Esponiad byr ac amlwg o Erthyglau ein Ffydd, fel yr ydym yn eu cael yn y Gyffes gynnwysfawr honno a elwir Credo'r Apostolion. Nid oes neb yn ammeu ei hynafìaeth na'i aw- durdod. Pa un ai gan yr Apostol- ion yr ysgrifenwyd ef, ai gan eraill yn eu hamser, ai yn fuan ar ol hyn- ny, y mae, mewn modd amlwg a chynnwysfawr, yn cynnwys y rhan fwyaf o'u hathrawiaeth ddwyfol. Ond er ei fod yn cyttuno yn hollol â'r Ysgrythyrau, etto, am nad yw yn rhan o honynt, yr wyf wedi dewis y geiriau uchod fel yn sylfaen o'm Hesponiad bwriadol o hono. Y maent wedi eu rhoddi fel rheol i Ddiaconiaid ; iddynt hwy yn fwyaf neillduol y maent yn perthyn ; ond y maent yn ddiau yn hyspysu i ni ddyledswyddau pawb sydd yn eu galw eu hunain yn Gristionogion, i ddala dirgelwch y ffydd mewn cyd- wybod bur. Yr ydych yn canfod yn eglur yn- ddynt, em werthfawr mewn cistan dlws, dirgelwch y ffydd wedi ei roddi i'w gadw mewn cydwyhod bur ; ac nid yw'r ddau hyn yn unig yn cydweddu, ond y maent yn anwa- hanadwy, fel y gwelwn yn y bennod gyntaf o'r Epistol hwn, adn. 10. Y maent yn cyd-sefyll ac yn cyd- gwympo, y maent yn dioddef yrun llong-ddrylliad : os teflir un ymaith, fe fydd y llall yn myned yn llong- ddrylliad: os difethir un, nis gall y llall ddiangc. Y mae pob cred- adyn yn deml i Dduw ; ac fel yr oedd llechau y gyfraith yn caei eu cadw yn yr arch, y gydwybod bur yma yw yr arch sydd yn dal dir- gelwch y ffydd. Yr ydych yn credu eich bod yn gredinwyr; nid ydych yn ammeu hynny, a byddai anfodd-