Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 57. MAWRTH, 1840. Cyf. V. PENDERFYNIAD YR AFRADLON. "Mj a godaf, ac a af at fy Nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy Nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau." Trodd yr afradlon ei gefn ar dý tad llawn trugaredd a thost- uriaethau ; ymadawodd â thŷ llawn o bob danteithion a thrugareddau ; ac ymrodd i anwiredd lawer, drwy wastraíFu y rhoddion â pha rai y cynnysgaeddwyd cf gyda y parod- rwydd a'r tirionwch mwyaf. Ond wedi iddo grwydro hyd ym mhell o'r hen lannerchau dedwydd ; wedi iddo ymddigrifu am ryw yspaid ym mhob moethau ; ac o'r diwedd, wedi iddo gael ei ddwyn i gyfyngderau a gwasgfeuon, cofiodd am yr hen gaerau dedwydd, a dywedodd, " Mi a godaf, ac a af at fy nhad." Ym- adewais â'm tad yn hollol ddiachos, oblegid mewn çaredigrwydd yr ym- ddygodd erioecf tuag attaf, ac ni welais ond pob tiriondeb oddiar ei ddwylaw; gwyliai ar fy nghamrau pan yn fy maboed, cynnorthwyai fi yn fy hpll lesgedd a'm methiant, a rhedai i'm gwaredu pan welai fi yn ymyl neu yng nghanol peryglon. Ymadewais, nid âg estron annhrug- arog a chreulon, ond â thad a'm cerai, ac ymysgaroedd yr hwn oeddynt yn llawn tosturiaethau tuag attaf; a thrwy fy ymddygiad ang- hysson â'm dyledswyddau fel mab iddo, yr wyf yn ofni fy mod wedi tynnu ei wg, a'i fod yntau wedi ym- ddieithrio oddi wrthyf a'm hang- hofio. Ond, " Mi a godaf, ac a af at fy nhad." Treuliais flynydd- oedd a blynyddoedd o'i bresennol- deb, ac heb feddwl nemmawr neu ddim am dano; ond y mae yn gof gennyf am sirioldeb ei lygaid a llon- der ei wynebpryd, ac y mae adgofion yr hen amseroedd gynt yn gorlifo yn awr i'm meddwl yn ffrydiau ac yn rhaiadrau mor fawrion, fel yr wyf wedi penderfynu codi, ac wyn- ebu yn ol tua'r hen gaerau. Y mae rhyngof fi a'm tad yn awr bellderau annirnadwy; yrydwyf wedi ei wrth- droedio ; y mae mynyddoedd uchel a chymmydd dyfniön ar y ffordd ; y mae efe yng nghymmydogaeth oleu caer y dwyrain, a miunau tua thir machludiad haul, yn ogofau tywyll- ion a chysgodau caddugawl y g0r_ llewin, ar ddarfod am danaf yn nhir y felldith fawr. Arosais yu y wlad hon yn hir; gorweddais a chysgais yma ; ac os arosaf ynddi yn hwy, y mae arnaf ofn y byddaf heb nefoedd, ac y dihunaf yn y byd mawr tragywyddol, yn y diffeith- leoedd parottoedig i'r rhai nad ydynt yn adnabod yr Arglwydd, nac yn rhodio yn ei ddeddfau ef. Mi a godaf, ac a af at fy nhad ; yr wyf yn hiraethlon am weled ei wedâf ac y mae awydd yn fy nghalon am