Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 50. AWST, 1839. Cyf. IV. HANES GRUFFYDD AB NICHOLAS, O DDINEFWR. Yr oedd Gruffydd ab Nicholas, o Ddinefwr, yn enwoccaf o fawrion a phendefigion Cymru yn ei ddydd; wedi hanu o Urien Rheged, ac yn perthyn i'r teulu tywysogaidd a roes ddeddfwyr a phennaduriaid am oesau lawer i'r Deheubarth. Yr oedd Gruffydd ab Nicholas yn ben- defig o fawredd, o allu, ac o ddy- lanwad mawr yn ei oes, yn amser Harri y Chwechfed. Yr oedd ei gyfoeth a'i feddiannau braidd yn anghredadwy i ni ; a thrwy briouas yr oedd yn dwyn perthynas â'r teu- luoeddmwyaf urddasol yng Nghym- ru. Yr oedd yn be.ndefig poethlyd iawn yn ei natur, medd yr hanes- wyr am dano, ac wedi ei dorri allan neu ei addasu yn neillduol ar gyfer yr amseroedd terfysglyd yr oedd yn byw ynddyut. Yr oedd yn ddyn cyfrwys iawn, ac o synwyrau mwy na chyffredin ; ond yn dra byrbwyll yn ei yspryd, yr hyn yn fynych a achosai iddo fod mewn ymrafael â'i gymmydogion. Ym mhlith amryw erall, tynnodd Gruffydd ddigofaint Richard, Dug Caerefrog, tuag atto, a hynny trwy gadw dernyn o dir oddi wrtho yn swydd Henffordd, a gwrthododd yn bendant ufuddhau y sirydd, pan alwyd arno i atteb am ei ymddygiad. Ymrafaeliodd hefyd â Jasper, Iarll Penfro ; ac nid heb achos, oblegid darfu i Jasper ryw 2 E fodd neu gilydd weithio at y Bren- hin, fel y cafodd lywodraeth castell Cilgerran, yr hwn a fu am ryw am- ser yn nwylaw Gruffydd, a'r hwn a ddaliai oddiwrth y goron. Yr oedd hefyd mewn yrarafael â Dug Buck- ingham, yr hyn a brawf fod Gruff- ydd yn ddyn o bwys yn ei ddydd, ac yn ddyn na roddai i fynu gydag unrhyw sarhad a gynnygid arno. Yn yr amser hynny, yr oedd y pen- defigion Seisnigaidd yn gormesu ar y pendefigion Cymreig,ac yn rhoddi pob sarhad a allent arnynt; ond yr oedd gwaed Cymreig Gruffydd yn berwi yn ei wythiennau dros ei wlad, ei genedl, a'i breinniau, fel na allai roddi i fynu gyda hynny, na chym- meryd hynny oddiar ddwylaw neb pwy bynnag. Ni feddai ond y peth nesaf i ddim o gariad at y Seison yn gyffrediuol, fel ybu am hir amser yn gummedd cyhoeddi ei hun o blaid teulu Caerefrog na Laucaster, pan ydoedd yr ymrafael yn boeth rhyngddynt. Gwyddai deiíiaid lli- osog Gruffydd am ansawdd meddwl eu harglwydd yn dda ; a chan dyb- ied na buasai eu hymddygiad yn anghymmeradwy ganddo, hwy a gymmerent afael ym mhob cyfleus- dra i yspeilio Arglwyddi Seisnig- aidd y Marches. Dilynent y gor- chwyl hwn yn ddiwyd a chyda Uwyddiant, ac yr oedd yn dra en-