Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 49. GORPHENHAF, 1839. Cyf. IV. GWLADGARWCH.—(0 Tu Dal. \10.) Nid oes neb o'r cenhedloedd, hen I neu ddiweddar, wedi dangos cym- j maint gwladgarwch a'n cenedl ni; ! oblegid, ym mhob amgylchiadau j cyfyng, ac ym mhob gorthrymderau mawrion, y mae gwladgarwch y Cymry wedi torri allan fel rhyw fynydd tanllyd, ac wedi rhedeg yn un îlosgwy mawr drwy yr holl wlad. Pan ddaeth Iwl Caisar drosodd a'i lengau Rhufeinig—milwyrprofedig, arferol â buddugoliaeth, a phob un o honynt yn alluog i lywyddu byddin, gwrthwynebwyd ef yn gad- arn gan y Cymry, ac efe a'i fyddin a welwent oblegid eu dewrder. Pa beth a wnaeth iddynt ymruthro i'r môr, er attal glaniad gelynion eu gwlad ? Gwladgarwch. Pa beth ydoedd yr achos iddynt orwedd yn gelaneddau lliosog ar hyd y traeth- ydd, a'u gwaed yn llynnoedd ffer- redig oddi amgylch îddynt ? Gwlad- garwch. Pa ham yr ymladdent frwydr ar ol brwydr, ac yr adgyf- odent megis o'u llwch eu hunain i'r gâd ? Eu gwladgarwch. Gwlad- garwch ydoedd yr emm ddisgleiriaf yng nghoron Buddug, enw yr hon a gerir, gwroldeb yr hon a rhyfedd- ir, a choffadwriaeth yr hon a fydd yn anrhydeddus hyd fil o gen- hedlaethau. Gwladgarwch ydoedd addurn bennaf Caradog, yr hwn a ymladdodd fel gwron â'r Rhufein- 2 A iaid; ac er i'w gleddyf fethu ei gadw rhag eu cadwynau, drwy nerth tafod efe a waredwyd rhagddynt. Gwladgarwch a fu yn achos i Arthur ddiweinio ei gleddyf, a byw a marw yn swn ergydion yr arfau, ac yng nghanol gweryriadau meirch rhyfel. Gwladgarwch a fu yn achos i'n Ty- wysogion osod eu bywydau mewn enbydrwydd, a chael eu dihenyddu fel drwg-weithredwyr. Pan glyw- om a phan welom enwau Dafydd, Gruffydd, Lìewelyn, Glyndwr, ac eraill, yr ydym yn canfod y gair Gwladgarwch yn naddedig ar ddail o aur pur megis ar eu talcennau. Ac yr ydym ni fel cenedl hyd he- ddyw yn ddihareb ym mhlith yr holl genhedloedd am ein gwladgar- wch; oblegid y mae ei wlad, ei iaith, ei grefydd, a'i freinniau yn yn argraphedig ar galon pob Cymro, gan nad ym mha barth o'r byd y bydd ei breswylfod. Mewn cyssylltiad anwahanol, ac mewn cwlwm annattodadwy â gwlad- garwch, y mae sefydliadau llenyddol gwlad, y rhai a flagurant ac a flod- euant yn ol yr afael a fyddo gan wladgarwch ar ei thrigolion. Y mae sefydliadau llenyddol yn gynnud i awen y bardd, yn aweìon yn esgyll yr hanesydd, ac yn agerdd grymmus yn gwthio pob dysgeidiaeth ym inlaen; oblegid hebddynt y mae