Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 48. MEHEFIN, 1839. Cyf. IV. GWLADGARWCH. Er bod y teulu dynol wedi di- rywio i raddau anamgyffredadwy, etto y mae rhai nodweddiadau yn perthynu i ddynion ag sydd yn eu gwneuthur yn ardderchogion, ac yn deilwng o'r gorsafion hynny y cyf- lewyd hwynt ynddynt gan eu Cre- awdr. Ac er mai gwirionedd trist ydyw, bod ardderchogrwydd boreuol dyn wedi ei oblygu ym mantellau duon rhyw gaddug rhyfeddol ; etto, er y cyfnewidiad mawr a gymmer- odd le ynddo, y mae rhyw rinwedd- au wedi aros, y rhai a ymsaethant allan yn belydron ysplennydd o ganol cymmylau tywyllion, a chym- mydd duon o darth dudew. Anni- chonadwy peidio mynwesu y dyn hwnnw, y gwelid deigryn tosturi yn ymlithro dros ei rudd, oblegid cyni, adfyd, ac anghenoctid ei gydgre- adur. Y mae y galon yn union- gyrchol yn gwresogi at y dyn hwnnw, y gwelir ei elusennau yn diferu fel manna o'i ddwylaw, er mwyn es- mwythau briwiau calonnau gwedd- won ac ymddifaid, yn gystal ag er gwellhau eu hamgylchiadau. Nid- oes unrhyw olygfa yn brydferthach na chanfod dyn a'i holl ymdrechion er llauw y cylch y gosodwyd ef ynddo gan ragluuiaeth, fel y byddo yn drugaredd i'w fro, ac yn fendith i'w wlad. Ond o bob rhinwedd sydd hyd yma wedi bod yn ogoniant i ddyn yn y fuchedd hon, rhinwedd ei rinweddau, seren ei ser, a haul ei heuliau ydyw Gwladgarwch ; oble- gid heb hyn, er pob peth arall, erys yn anweledig yng nghysgodau y mynyddoedd. Ac er bod o fewn cylch y pwngc hwn faes ehang o wastattir gwyrdd-lysieuog, o fryniau glwys ar ba rai y mae haul haf yn taflu ei belydron yn wastadol, yng- hyd âg afonydd o ddyfroedd grisial- aidd ; etto y mae yn ormod gor- chwyl i wneuthur cyfiawnder âg ef, oblegid mai pwngc yr holl byngciau ydyw. Nid ydyw y dyn hwnnw sydd yn ymddifad o gariad at ei wlad, ei sefydliadau, a'i llenoriaeth, ond anolo yn llechres ei genedl, o'i gwreiddyn hyd ei brigyn uchaf. A ydyw efe wedi casglu a thyrru aur ynghyd fel llwch ? Yn lle bod fel ser, yn addurniadau disglaer yn ffurfafen ei enw, y maent fel y co- rynnau dynol crogedig ym mwthyn y barbariad, yn braenaru calon pob dyn o deimladau. A ydyw efe wedi adeiladu palas hoyw, er bod yn brydferthwch yr ardal ac yn ogon- iant y fro ? Y mae,yng ngolwg pob dyn o wir archwaeth, fel adfeiliatt Babilon, yn lletty ac yn noddfa i holl ysgymmun-filod y ddaear. A ydyw efe wedi gadael etifeddiaeth deg a dymunol i'w olafiaid ? Y