Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 44. CHWEFROR, 1839. Cyf. IV. NI BYDD AMSER MWYACH.—(0 Tu Dal. l.J Preswylwyr y byd a drengant. Y mae rhyw arswydau mawrion a dychrynfeydd rhyfeddol yn perthynu i ymosodiad angeu ar bebyll pridd- lyd hiliogaeth Adda, ac y mae yr olygfa ar ei ddynesiad, a'i grymman Uym yn ei law, wedi achosi i rai a'u traed ar Graig fawr yr oesoedd waeddi allan yn wylofus, " Paid â ni fel y cryf haom, cyn ein myned ac na byddom mwy." Nid oes dim mor anwyl gan ddynion a'u bywyd- au ; oblegid, er ei feithrin a'i gadw, yr ydyra yn gweled ein cyd-greadur- ìaid yn cynniwair i ffynhonnau ac at feddygon, er mwyn cadw yr ergyd draw, ac estyn yr oes. Er mor an- wyl ydyw yr aur gan y cybydd, etto pan deimlo ci gorph yn dadfeilio, a phan feddylio fod angeu â'i beirian- nau yn ymosod ar ei dŷobridd, efe a rifai y ddimmai ddiweddaf er mwyn ei droi yn ol, a chael ychydig o am- ser i fyw yn hwy ar y ddaear. Ond er holl rinweddau ffynhonnau, er holl gyfferi y fferyllwyr, ac er holl wybodau y meddygon, y mae dyn dan ddêdfryd marw, ac y mae y bywiolion oll yn rhwym i wynebu dyffryn cysgod angeu, a llifeiriant dyfroedd yr lorddonen fawr. Er y dichyn i'r llofrudd ddiengyd rhag cospedigaeth cyfreithiau ei wlad i bellderau y ddaear, annichonadwy i «b ddiengyd rhag angeu ; obìegid y mae eideyrnas yn gyffredinol,ac y mae enwau holl feibion a merched Adda wedi eu rhoddi yn ei lyfr. Y mae y meddwl am angeu, ac am awr ymddattodiad y babell, yn peri i galon a chnawd grynu, ac i ochen- aid ar ol ochenaid esgyn o'r fynwes ; ond er yrjymlyniad sydd gennym wrth fywyd, y mae hadau marwoldeb yn y corph, y mae olwynion y peiriant yn treulio, ac yn fuan gwelir cedyrn a gwroliou yr oes yn gwar-grymmu tua'r bedd. Ni bydd amser mwyach. O mor werthfawr ydyw amser! oblegtd o fewn ei gylch y mae dyn yn dyfod i afael yr iechydwriaeth a gafwyd drwy Gyfryngwr, ac i afael y cyf- iawnder a weryd rhag angeu. O fewn cylch amser y mae galwadau a gwahoddiadau tirion y nef ar ol truenusion a syrthiedigion Eden, yn eu cymhell i ffoi rhag y llid a fydd, ac i gilio i gysgod y graig rhag i'r dymhestl dragywyddol eu hysgubo ymaith i'r môr marw, lle nL cheir glann ha gwaelod i bob tragywydd- oldeb. Tra y mae dyn o fewn cylch amser, y mae a'i draed o fewn ter- fynau yr addewidion, ac y mae yn y wlad lle y mae gobaith bywyd tra- gywyddol yn teyrnasu, a chadwed- aeth enaid yn cael ei chynnyg iddo. Ond ni bydd amser mwyach.* Clywch hyn, y rhai anystyriol a difraw yng