Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 43. IONAWR, 1839. Cyf. IV. â NI BYDD AMSER MWYACH. Blynyddaü a blýnyddau ydynt wedi çylchynu eu gilydd o ddech- reuad amser hyd yr awr hon; y naill yn dyfod ar ol y llall, fel y mae oes y byd yn awr yn cael ei rhifo wrth y miloedd; ond y mae adeg yn agoshau, pan attelir olwyn- ion y peiriant Jiwn i droi, ac y hloeddir yn groch yn yr eithafion, " Ni bydd amser mwyach." Y mae rhai, yn eu dallineb a'u hanystyr- iaeth,#wedi meddwl y parha amser yn dragywydd, ac na bydd pen draw byth i rifo bíynyddau oes y byd ; ac felly eu holl ymdrechion ydyw gwneuthur iddynt eu hunain enwau ar y ddaear, gan gredü y bydd da- lennau hanesyddiaeth i gael eu dar- llen o oes i oes yn ddidrangc. Ond pe byddai y gwirionedd pwysig o drangcedigaeth amser i gael ar- graphiadau addas ar galonnau hil- iogaeth Adda, gwelid yr egnion mwyaf gan bawb i drysori iddynt eu hunain drysor aìlan o derfynau y ddaear, ac i gael eu henwau wedi eu croniclo mewn llyfr a ddarllenir yn unig gan anfarwolion, mewn gwlad Ue ni bydd amser yn cael ei rifo mwyach. ; Y mae rhyfeddodion a nerthoedd mawrion yr Hollalluog Dduw wedi. cael eu datguddio yn rhyfeddol o | fewn çylch amser. Yohydig a wy- ddoin ni am ei weithredoedd máwr- eddog cyn dyfod o hono allan o't gyssegr tragywyddol, er dangos ei allu mawr ac anfeidrol mewn cread- igaeth; ond drwy gyfeirio ein go- lygon at yr aneirif fcfdau crëedig, a neidiasant i'w gorsafion parotto- edig ar ei air ef, ei auweledig bethau ef a welir yn amlwg yn y pethau a wnaed, sef ei dragywyddol allu ef a'i dduwdod. Cyn i'w ailu creadigol gael ei ddwyn i weithred- iad, nid oedd ond y gwagder erchyll a'r tywyllwch brawychus yn teyrn- asu mewn llawn rwysg; ond pau roes efe y gair, wele fil myrdd o fodau mewn bodoliaeth, a'r rhai hyn oll yn dawnsio ar eu pegynau, ac yn cyd-ganu cerddi o ogoniant iddo. Yr ydym ni wedi ymgynnef- ino â*r goleuui megis â phob peth arall; ond ardderchog ydoedd yr olwg arno, pan ymsaethodd ei bel- ydron allan i ganol teýrnas y Nos fawr, ac y gwnaeth i'r hén frenhines gaddugawl rannu ei llywodraeth. Yr ydym ni wedi ymgynnefino â thorriad y wawr, ac â chyfodiad yr haul, fel y maeutbraidd wedi myned yn ddisylw gennyra; ond pa olwg dàn y nef mor hardd, a gweled pel- ydron y wawr yn ymsaethu dros y bryniau, a cherbyd eurawg huan yu ësgyil uwch caer y dwyrain ? Y mae yr olygfa hon wedi synnu dyn- ion meddylgar drwy yr oesauj a