Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 41. TACHWEDD, 1838. Cyf. III. CREFYDD. Crefydd, yn yr olygfa gyffred- inol o honi, sydd gynnwysedig yn y fath ystyriaeth o Dduw ar yr enaid, ac yn y fath argyhoeddiad o'n rhwymedigaeth iddo, a'n hymddi- byniad arno, fel ag i'n dwyn i'w wneuthur yn ofal pennaf o'r eiddom i ymddwyn yn y fath fodd ag y bydd gennym reswm i gredu a rynga ei fodd ef. Siaredir llawer iawn gan ddynion am grefydd, ond ychydig a ddeallir ynghylch ei nhatur ; honnir llawer o grefydd, ond ychydig o grefydd a ymarferir; a'r achos pa ham yr ymarferir mor lleied o grefydd, ydyw y difFyg o ddeall yn well pa beth ydyw cref- ydd. Rhaid i wybodaeth gan hynny ragflaenu crefydd; oblegid y mae yn angenrheidiol bod yn gall cyn bod yn rhinweddol. Y mae yn angenrheidiol gwybod i bwy, ac ar ba ystyriaeth y mae dy- ledswydd yn ddyledus, cyn y mae yn ddichonadwy i'w chyflawni yn gywir. Rhaid gan hynny i ni ys- tyried mai Duw ydyw gwrthddrych crefydd, ac mai yn yr enaid y mae yn hanfodi ac yn aros. O'r enaid y *"ae yn rhaid íddi ddeilliaw, ac at Dduw y mae yn rhaid iddi gael ei chyfarwyddo. Y mae daioni an- feidrol Duw wedi gosod rhwymed- ^gaeth barhaus ar yr enaid i'w garu yn ddiddor, i ufuddhau iddo ym ^bob dim, a'i addoli mewn purdeb. 2R Nid oes gan y corph un rhan mewn crefydd, ym mhellach na thrwy arwyddion neu ymddangosiad, i wneuthur yn amlwg duedd a go- gwyddiad y meddwl; pa arddang- osiadau, y mae yn wir, ydynt yn fynych yn dwyllodrus, ac yn achosi i'r rhai hynny a'u gwelant gael eu twyllo bod y cyfryw yn sant, ac yntau ar yr un pryd yn rhagrithiwr yng ngolwg Duw, yr hwn a wel ddirgeloedd y galon. Y mae dyn- ion yn twyllo cymmaint arnynt eu hunain ag y maent yn dwyllo ar eraill, y rhai a feddyliant ddef- nyddio eu crefydd fel y gwnant eu dillad goreu, dim ond eu gwisgo er mwyn myned i'r Eglwys ddydd Sabboth, i ymddangos yn hardd; ac mor gynted ag y delont adref, eu rhoddi heibio rhag ofn eu treulio. Ni ddylid meddwl hefyd bod cref- ydd yn gynnwysedig raewn plygu gliniau, yr hyn yn ddiau sydd ar- wydd o ymddarostyngiad; oblegid y mae crefydd yn gjmnwysedig yng ngwir ymddarostyngiad yr enaid ger bron Duw; nid yn nyrchafiad y dwylaw a'r llygaid, ond yng ngwresogrwydd y serch. Y mae ymddangosiadau allanol ac ymddyg- iad gweddus, yn bethau addas a rhesymmol, a hyn a all y corph dalu; ond gwirionedd mewnol, a phurdeb yn y galon, yn unig a wna y cyfryw bethau yn gymraeradwy.