Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 39. MEDI, 1838. Cyf. III. DINAS DUW. " Y nef yw fy ngorseddfaingc, a'r ddaear ydyw lleithig fy nhraed," nieddai y Brenhin anfarwol, sydd yn rhodio ar y cymhylau, ac yn ehedeg ar edyn buain gwyntoedd yr uchel- derau. " Y nef yw fy ngorsedd- faingc, a'r ddaear yw lleithig fy nhraed." Anamgyffredadwy ydyw y mawredd a'r gogoniant sydd yn perthynu i lor yr uchelderau ; a phan ehedo y ddychymmyg i'r pre- swylfeydd ysprydol ac anfarwol fry, y mae yn uniongyrchol yn suddo ac yn boddi mewn môr o ryfeddion tra- gywyddol. Y mae i'r Creawdwr mawr lwybrau tragywyddol yn y pethau a welir, oblegid y mae dos- parthion ei lywodraeth, yn yr uchel- ion ac yn yr iselion, yn cyrhaeddyd ym mhellaeh nag y gallodd meddwl ereadur meidrol gyrhaeddyd erioed. Mawr a rhyfedd ydyw ei adeiladau ef, oblegid o bell y maent yn ein llanw â syndod, ac o draw y mae eu harddwch a'u disgleirdeb yn peri i ni oblygu ein pennau, ac ymgre- bychu i'n dimdra cyssefin. Y mae y ddaear a gyfanneddir gennym ni yn rhyfedd yn ei holl ddosparthion, "wedì ac yn parhau i dynnu sylw meddyliau cedyrn drwy yr holl oesau. Y mae yn ei thro chwyrn- wyllt dyddiol ar ei hechel ei hun, o'r dwyrain i'r gorllewin, yn rhyfedd, yn rhyfedd yn ei thro blyuyddol yn 21 | ei chylch oddi amgylch yr haul, ac | yn rhyfedd yn ei hysgogiadau pa rai a ffurfiant dymhorau y flwyddyn. j Y raae yn rhyfedd yn uchder ei j mynyddoedd, yn nyfnderau ei mor- I oedd, yn amrywiaeth ei chynnyrch, ac yn yr hyn oll a berthyn iddi; j ond y mae gorchwyl gan Dduw y | nefoedd yn myned ym mlaen ar y ddaear, sydd yn fwy rhyfeddol na holl waith y greadigaeth, ac a bar- ha yn rhyfeddod byth ac yn dra- gywydd. Y mae ein Crewr a'n Ceidwad yn adeiladu dinas ar y ddaear, defnydd- iau yr hon sydd ryfedd. Yr ydym wedi gweled y coedwigoedd yn gerf- iadau o'r cywreiniaf, priddellau y dyffrynnoedd yn balasau o'r glwysaf, y chwarelau yn gaerau o'r cadarnaf, a thywod a lludw yn wydrau o'r gloywaf. Yr ydym wedi gweled y coedydd yn nofio yn llongau mawr- ion ar donnau y moroedd, yn cydio ynysoedd ynghyd, ac yn dwyn pell- afoedd y byd yn agos attom ni. Yr ydym wedi gweled cerrig ogofau tywyll-leoedd y ddaear yn gleddyf- au gloywon, yn bladuriau awchus yn trystian yn y gweirgloddiau, ac yn fagnelau safnrythog, yn chwythu o'u ffroenau fellt tanbaid a tharanau cedyrn. Ond pa beth ydyw y gol- ygfeydd rhyfeddaf o fewn cylch terfynau natur ehang, at yr adeilad