Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 36. MEHEFIN, 1838. Cyf. III. GWAREDIGAETH DYN. Gwnaed dyn ychydig yn is na'r angylion, a choronwyd ef â gogon- iant ac âg anrhydedd, fel mai y pennaf o waith Ior ydoedd o fewn terfynau y greadigaeth hon. Yr oedd yn uchaf ar y llechres, yn arglwydd ar yr holl greaduriaid, yn is-lywydd dan ei Greawdwr gor- uchej, mewn cymmundeb parhaus â'r nefoedd, ac yn cael ei ymddiffyn rhag pob niweidiau gan gaerau tra- gywyddol deddfau y Duw a'i cre- odd. Gosodwyd ef i breswylio mewn llannerch ddymunol o'r greadigaeth, lle yr oedd y Pen-Garddwr ei hun wedi parottoi ar gyfer ei dded- wyddwch; ac yn yr ardd hyfrydol y gwelid ef yn ysgogi ei gamrau ar hyd lwybrau blodeuog, yn sugno awelon per i'w enau, yn ymhyfrydu yn y cynnyrch pennaf a phrydferth- af a welwyd erioed ar wyneb y ddaear, a gwawr anfarwoldeb yn tywynnu arno, a phob peth yn cyd- daro i wneuthur yn amlwg mai cyf- aill neillduol Ior yr uchelderau ydoedd. Yr oedd cwymp dyn yn fawr. Y mae, ef allai, rai o'r" ser sefydlog yn eithafion yr uchelderau, rhai o heul- iau y taleithiau sydd fil myrdd o filoedd o filldiroedd o'r tu hwnt i ororau pellaf Caergwdion, rhai o'r cometau a gylch-wibiant drwy lwybràu anhygyrch teyrnas fawr yr Hollalluog Frenhin;—y mae ef allai rai o'r rhai hyn wedi colli eu gorsafion cyntefig, ac wedi syrthio yn ddarnau i'r eigionau tragywydd- ol, ac yn hanfodi yn bresennol yn dra gwahanol i'w dull cynnefin. Golwg ryfedd fyddai gweled olwyn- ion cerbyd yr haul yn syrthio oddiar yr echel, a'r bod tanllyd hwn mewn eiliad yn rhoddi ysbongc, a chan ei chwyrnwylltedd yn myned yn fil miliwn o ddarnau, nes y byddai yr holl gyfundraeth yn un oddaith fawr, ac yn gwneuthur Vesuvius i'r holl fydoedd! Ond er gosod y dychymmyg ar waith, i ffurfio a llunio y cydmariaethau mwyaf byw- iog i gwymp pen a gwreiddyn dyn- oliaeth yn Eden, ni wnant ond dry- chau gweiniaid mewn cyferbyniad i'r cwymp ei hun, yr hwn ydyw y mwyaf a glywyd son am dano er- ioed. Yr oedd dyn yn adeilad hoyw, wedi ei addurno a'i bryd- ferthu â holl ddoniau y nef; ei gol- ofnau o'r marmor goreu, ei ffenestri o'r grisial puraf a gloywaf, ei ddod- refn o ddefnydd mil gwerthfawr- occach na'r aur coethaf o Ophir, ei dyrau carbyngclaidd yn ymddyr- chafu mewn harddwch tua chaerau y ddinas hyfryd; a'r oll o hono, yn amser da Duw ei hun, i gael ei drosglwyddo i fryn Sîon, yn y dal- aith anferwol, i fod yn enw ac yn