Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HACJL. Rhif. 33. MAWRTH, 1838. Cyf. III. GWEINIDOGION Y GWRTHRYFEL. Nt fynega hanesyddiaeth i ni i neb erioed, wedì amser Jeroboam fab Nebat, wneuthur cymmaint gwawd o grefydd, ag awnaed gan y Presbyterìaid a'r Independiaid yn amser y Gwrthryfel, pryd y dyrch- afasant law 'yn dduwiol yn erbyn llywodraeth eu gwlad,' ac y tor- fynyglasant eu teyrn. Fel yr ydys wedi crybwyll yn barod yn yr Haul, troisant ynghyìch deng mîl o Offeir- îaid allan o'u Heglwysi a'ti bywiol- iaethau; ac er mwyn llanw eu lle- oedd, dilyuasant yn hollol gamrau Jeroboam, yr hwn yn ddiau a roes yr enghraifft iddynt. Dywedir yn 1 Bren. 13. 13. am Jeroboam, gwrth- ryfelwr Israel, yn y wedd ganlynol: *Gwedi'r pethau hyn ni ddychwel- odd Jeroboam o'i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehil- ion y bobl offeiriaid i'r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a'i cyssegrai ef, ac efe a gai fod yn offeirìad i'r uch- elfeydd.' Yr un peth ydyw natur ac effeithiau gwrthiyfel ym mhob oea o'r byd, fel y mae hanes gweith- rediadau y rhai a arddelwent yr enw saint yn amser 01iver Cromwell yn proíì. Ni fu mwy o waeddi Diwyg- iad erioed na'r pryd hwn ; ac aea at yr Eglwys, i'w phuro a'i glanhau o ddifrif, yn ol y dull crefyddol a fernid yn ysgrythyrol ac yn ol ew- yllys y nef. Ynghylch yr Eglwys oedd yr ystwr a'r twrf mawr y pryd hwnnw ; a phan aed atti, dangosodd y gwyr da hyn mewn gweith- redoedd amlwg pa fath saint oedd- ynt a pha mor agos yr oedd crefydd at eu calonnau. Yr Esgobion yn cael eu herlid a'u carcharu fel drwg-weithredwyr ysgeler, yr Eg- lwysi Cadeiriol a phlwyfol yn cael eu gwneuthur ar achlysuron yn ys- tablau, a'r Offeiriaid a'u teuluoedd yn y cyfyngderau mwyaf ar hyd yr holl deyrnas. Ond y mae yn syn- dod i'r holl genhedlaethau i feddwl am y personau a roddwyd ym mhwl- pudau yr Eglwysi gan grefyddolion y Gwrthryfel. Trowyd gwr enwog a dysgedig, o'r enw Mr. Riland, allan o'i Eg- Iwys yn swydd Warwick. Yr oedd Mr. Riland wedi bod yn gyfaill o Goleg Magdalen, Rhydychen, ac yn sefyll yn uchel mewn dysgeidiaeth a duwioldeb. Ond ni arbedid ef gan y Profwyr duwiol, ac yn ddi- drugaredd ymlidiwyd ef-ymaith, a gosodwyd cribwr gwlan o Jersey yn y pwlpud yn ei le. Rhoddwyd bywioüaeth Dunsford, Dyfneint, i un o farchogion brwydr Caerwrang- on, yr hwn nid oedd ganddo un haeddiant iddi, ond craith fawr ar ei siol, effaith clwyf a dderbyniodd wrth ymladd o blaid y Senedd. Braidd y gallasai y Parchedig hwn