Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 29. TACHWEDD, 1837. Cyf. 1L HANES MOHAMMED. Y mae Mohammed, deddfwr yr Arabiaid, a sylfaenydd y llywodr- aeth Foslaidd, wedi cael ei arddang- os mewn dulliau gwahanol gan wa- hanol awdwyr, o wahanol wledydd, ac o wahanol grefyddau. Ẃrth ymrwyfo rhwng y gwahanol dyb- ìadau, ymddengys yn amlwg bod Mohammed yn ddyn o dalentau mawrion, ac ynddo gymmysgedd mawr o ddrwga da, fel eraill o blant Adda yn çyffredinol. Yr oedd ei synhwyrau yn gryfion, ei ddeall yn ehang, a'i adnabyddiaeth o ddynion yn dra helaeth ; ond wrth ymhonni i ddatguddiedigaethau oddiwrth Dduw ei hun, ac i weledigaethau goruwch-naturiol, gwnaeth ei hun yn dwyllwr, ac ni ellir ei ystyried ond fel dyn tra drygionus. Y&tyrir ef yn brophwyd mawr gan ei gan- lynwyr, a galwant ef wrth yr enw anrhydeddus o Apostol Duw, ac yn uwch na neb yng nghyfrif y nef. Dyweda yr ysgrifenwyr dwjjrein- iol, bod Mohammed wedi hana yn uniongyrchol oddiwrth Ishmaeí ;. a pherthynai i lwyth y Coraishiaid, yr hwn ydoedd yr anrhydeddusaf yn Arabia. Enw ei dad ydoedd Abad-* allah, ac enw ei fam Amena, merch Waheb; a ganed ef yn ninas Mecca yn Arabia, ym mis Ebrill, yn y flwyddyn o oed Crist 578. Ym mhen ychydig ddyddiau wedi ei 2R eni, gwnaeth ei daid, Abdol Mottal- eb, wledd fawr i'r Coraishiaid, ac ! enwodd y bachgen Mohammed. Dyweda y Mohammediaid i wyrtbj- iau rhyfeddol gael eu cyflawnu ar ei enedigaeth; megis i oîeuni mawr ymledanu dros holl Syria, i'r diafl- iaid gael eu hymlid o'r bodau wy- brenuol, i dân sanctaidd y Persiaid ddiffodd, i lynn Sawu sychu, ynghyd âg amrywiol bethau eraill, na chred- ir ond yn unig gan ei ganlynwyr. Collodd Mohammed ei dad a'i fam pan ydoedd yn dra ieuangc, a chym- merodd ei daid, Abdol Mottaleb, ef dan ei ymgeledd, a bu yn noddwr caredig iddo hyd derfyn ei oes. Darfu i'w daid, ar ei wely angeu, orchymmyn i'w fab, Abu Taleb, i ymgeleddu y dyn ieuangc Moham- med ; yr hyn a wnaeth, a dysgodd ef yn fasuachwr. Er mwyn per- ffeithio ei nai yn yr oruchwyliaeth a ddewisodd iddo, cymraerodd Abu Taleb Mohammed gydag ef i Syria, pan ydoedd ynghylch o ddeddeg i dair ar ddeg oed, ac wedi hynny a'i cyflwynodd i wasanaetJi gwraig we- ddw gyfoethog o'r enw Chadija; ac wedi iddo wasanaethu y wraig weddw ryw amser er ei boddlon- rwydd, hi a'i gwnaeth yn wr iddi, wedi iddo ddychwelyd yn ei ol i Mecca. Cymmerodd hyn le, meddaì Abulfeda, oblegid uniondeb a ffydd-