Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 25. GORPHENHAF, 1837. Cyf. II. HANES OLIVER CROMWELL. Dyweda rhai am 01iver Crom- well, ei fod wedi hanu o deulu Cymreig ym Morganwg; ond gan nad beth am hynny, yr oedd yn fab i Robert Cromwell ac Elizabeth ei wraig, ae a anwyd ar y pummed ar hugain o Ebrill, yn y flwyddyn 1599, ym mhlwyf St. John, yn nhref Huntingdon. Tyfodd i iynu yn fachgen tra ammhlygedig, ac yn ddrygionus iawn; ac esgeulusodd ei ysgol i'r fath raddau, fel, pan symmudwyd ef o Huntingdon i Golèg Sydney, Caergrawnt, nid oedd yn gwybod ond y peth nesaf i ddim mewn dysgeidiaeth. Bu ei dad farw yn fuan wedi iddo ef gael ei osod yn y brif-ysgol, a symmudwyd yntau oddi yno gan ei fam, ac anfonwyd ef i Lundain, er mwyn ei wneuthur yn gynghorwr o'r gyfraith. Wedi myned i'r brif-ddinas, ni fyfyriodd Cromwell fawr ar y gyfraith na'i throion; ond dilynodd ei flys, ac ymhyfi-ydodd yn holl lygredigaethau yr oes, ac aeth yn hynod iawn am ei awydd at bob chwareuon; a phan ddychwelodd yn ei ol i Huntingdon, ym mhen dwy neu dair blynedd, yr oedd ei fuchedd mor llygredig, a'i fywyd mor afreolus, fel y tynnodd ei ewythr, Syr 01iver Cromwell, ei gyfeillgarwch oddi wrtho. Yn fuan ar ol hyn, anesmwythodd ei feddwl yn fawr, oblegid bod ei amgylch- 2A iadau wedi myned yn dra chyfyng; a chan gymmeryd arno ei fod mewn gwasgfeuon ynghylch ei gyflwr, ym- ddangosodd cyfnewidiad mawr yn ei fuchedd. Bu y rhagrith hwn o'i eiddo yn achos iddo ad-ennill serch- iadau ei berthynasau; a phan gyr- haeddodd ei un ar hugain oed, chwiliasant am wraig iddo, a phri- ododd 01iver âg Elizabeth, merch Syr James Bourchier. Yn fuan wedi ei briodas, ymddengys ei fod yn ffafriol i'r Puritaniaid, ac yr oedd ei dŷ yn St. Ives yn noddfa gyffredinol i'r offeiriaid gelynol i'r Uywodraeth. Yn yr amser hwn yr oedd y wlad yn lled gyffredin yn sur at y Uys ; a chan ei fod yn wybodus bod 01iver yn wrthwynebol iawn i'r brenhìn a'r llys hefyd, etholwyd ef yn aelod dros fwrdeisdref Hunting- don yn 1628; ond gollyngodd y brenhin y Senedd hou yn rhydd yn fuan, yr hyn a gynddeiriogodd ei elynion fwy-fwy yn ei erbyn. Yr oedd tý Cromwell yn fwy agored yn awr nag erioed i bregethwyr y Puritaniaid, a chedwid cyrddau yn- ddo; ac yr oedd yntau ei hun yn fynych yn gweddio ac yn pregethu am oriau ynghyd. Ond wrth gyn- nal achos fel hyn, gwaethygodd yn ei amgylchiadau, ac aeth yn ddar- llawydd, ac ar ol hynny yn ffermwr; eithr pan fu farw Syr Thomas Stu-