Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 10. ERRILL, 1836. Cyf. 1. ESBONIAD ESGOB PEARSON AR Y CREDO. ERTHYGL I.—Rhan 3. Priodolir yr enw Tad i Dduw mewn dau ystyr ; yn gyntaf, fel Tad holl ddynolryw; yn ail, fel Tad neillduol a phriodol Iesu Grist. Ni pherthyna yr enw Tad, fel y priodolir ef i Dduw, i Gristionogion yn unig, o herwydd yr oedd y Cen- hedloedd yn ei roddi i'w duwiau hwynt. Sail tadoliaethyw cenhedl- iad; ond y mae creadigaeth, neu wneuthuriad unrhyw beth na han- fodai o'r blaen, yn fath o greadig- aeth; oblegid hyn y mae y Creawdwr yn fath o Dad. " A oes dad i'r gwlaw ? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?" Fel hyn y galwodd Plato Dduw yn Dad pob peth. Er hynny, ymddengys fod yn fwy priodol golygu perthynas Tad a Mab rhwng Duw a'i greaduriaid rhesymol, nag a phethau direswm ; y blaenaf ydynt ei feibion, yr olaf ei greaduriaid. O herwydd hyn gelwir Duw yn " Dad yr yspryd- oedd," ac Adda yn " Fab* Duw." Sylfaenir tadoliaeth hefyd ar ein cadwraeth a'n prynedigaeth, ac ar ein had-geuhedliad ysprydol ganddo, ■—" Pob un a'r sydd yn credo mai Iesu yw'r Crist, o Dduw y ganed ef.w Ar ein hadgyfodiad hefyd; canys megis drwy ein had-genhedl- iad y ganed ein heneidìau i ras, felly 2 N yn yr adgyfodiad daw ein cyrph allan o groth y ddaear, i hanfodiad newydd a gogoneddus.—Y mae Duw hefyd yn Dad i ni mewn ystyr gyf- reithiol trwyfabwysiad. Y mae credu tadoliaeth Duw yn angenrheidiol,—Yn gyntaf, i greu ynom barch ac ufudd-dod mabaidd ; yn ail, i'n gwneuthur yn hyderus y bydd i'n deisyfiadau gael eu hatteb gan ein Tad ; yn drydydd, i'n gallu- ogi i ddioddef trallodau yn amyn- eddgar, fel ceryddon tadol; ac yn olaf, i'n hannog ni, fel meibion, i ymdebygoli i'n Tad, nidmewn natur a ffurf, (yr hyn sydd ammhosibl,) ond mewn gweithredoedd a thuedd- iadau. Y mae Duw yn Dad mewn modd neillduol i Iesu Grist. Prif dad- oliaeth y Tad, fel y crybwyllir yn y Credo, sydd yn ei berthynas â Iesu Grist. Un gradd o dadoliaeth a seilir ar greadigaeth, sydd gyffredin i bawb; yr un a dardda oddiar ad- genhedliad a berthyn i'r ffyddlon- ibid ; a'r trydydd, drwy adgyfodiad, a thebygolrwydd i Dduw yn y nef, sydd yn perthyn i'r saint; eithr y mae tadoîiaeth Duw i Gristuwchlaw yr holl rai hyn. Yn awr, yn yr ys- tyr olaf hyn y golygir y gair Tad yn y Credo, yr hyn a brofir yn y dull canlynol:—Cyn ei esgyniad gorch- ymynodd Crist i'w ddisgyblion "fed-