Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. IÌH1F. 7. ÌONAWB, 1836. Cyf. 1 TYMP DIWRNOD. Nid ydyw yr haul un bore yn esgyn goruwch y bryniau mawrion dwyreiniol, yn rhedeg ei yrfa tua'r gorllewin, ac yn ymguddio o'r tu draw i'r caerau peilenig, heb i ryw bethau rhyfeddol gymmeryd lle ar y ddaear, y rhai a gofnodir yn llech- res hanesyddiaeth, ac a ddarllenir gyda syndod yn yr oesau dyfodad- wy. Cafodd yr haul y cydmeiriaid dedwydd un bore yn yr ardd flodeu- og, mor gysurus ag ydoedd yn ddi- chonadwy i greaduriaid dynol fod ; gwenai natur yn ei holl ddosparth- iadau arnynt, ac ewyllysai y nefoedd fil myrddiwn o fendithion y bryniau anfarwol i'w mwynhau ; ond cyn i huan ymguddio dan y cysgodau, ac i fentyll duon y nos orchuddio Eden lon, yr oedd y cydmeiriaid wedi gwrando ar elyn eu dedwyddwch, wedi eu bwrw allan o'r fro ddymun- ol, ac yn wibiaid a chrwydraid di- ymgeìedd, a'r ddaear wedi ei mell- dithio. Y dydd yr esgorodd y ddeddf ar ei melldithiou ar fyd yr anwiriaid, cyfododd yr haul mor danbaid ag erioed ; ond cyn iddi fachludo, yr oedd yn foddedig yn llynnoedd ehang yr eithafion, ffen- estri trysorau y gwlaw wedi eu hagoryd gan y fraich anféidrol, ogof- au cromgellau ymysgaroedd y ddae- ar wedi eu dad-gloi, y dwfr yn bìstylloedd ac yn rhaiadrau dych- 2A rynllyd yn dylenwi ac yn dygyfor o fro i fro, a nifer gwlith y bore o hil Adda yn gwargryramu dan y wialen, ac yn ymlonyddu dan uchel farned- igaethau Ior. Pan gyrhaeddodd Lot Soar ar fore ei fFoedigaeth o Sodom, yr oedd yr haul wedi cyfodi, a dinasoedd y dyffryn yn ganfydded- ig o'r bryniau cymmydogaethol yn eu hardderchawgrwydd a'u gogon- iant pennaf yn ei belydron; ond cyn y prydnhawn, yr oedd magnel- au Duw Hollalluog wedi gollwng y taran-folltau tanllyd dinystriol at- tynt, mwg eu llosgiad wedi dyrchafu i'r wybren fel mwg ffwrnes fawr, a'r holl wastadedd dymunol wedi ei droi yn fòr marw, ac yn aros hyd y dydd hwn yn golofn oesol o gyfiawn farn y Duw mawr. Bore rhyfedd o dy- wyll ydoedd hwnuw pan wneid par- attoadau er croeshoelio Mab y dyn ; yr oedd y cymmylau duaf yn grog- edig uwch cymmydogaeth Calfaria pan ddringai efe ael y mynydd ; galluoedd uffern wedi ymrestru er rhoddi yr ergyd angheuol i Dywysog y bywyd; lìygorn y nef am oriau yn amdoedig yn y lìen ddu ; y Meichiau mawr yn suddo îs îs dan donnau dyfnion y môr : a Iachawdwr y byd yn ei wasgfa flin yn gwaeddi, « p«y Nuw, fy Nuw, paham y'm gad- ewaist ? Ond tywynnodd goleuni mawr yn yr hwyr, oblegid gwelwyd