Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 5. TACHWEDD, 1835. Cyf. 1. EGLWYS CRIST. Yn gymmaint a bod llawer iawn o anwybodaoth yn y dyddiau pre- sennol ynghylch yr hyn a feddylir wrth Eglwys Crist, yr hon a elwir weithiau yr Eglwys Gatholig neu gyffredinol, nid anfuddiol fyddai dywedyd rhywbeth mewn ffordd o eglurhad arni, modd y byddo i'r Eglwyswr nid yn unig gael boddlon- rwydd i'w feddwl ei hun, ond fel y gallo hefyd roddi atteb am y gobaith sydd ynddo, gydag addfwynder ac ofn. Y mae hyn hefyd yn angen- rheidiol i ni, modd y gwybyddom pa un a ydym yn pertíiyn i Eglwys Crist neu nad ydym, oblegid ar hyn y mae ein dedwyddwch tragywyddol rhagllaw yn ymddibynnu. Dywed- odd ein Iachawdwr pan ydoedd ar y ddaear fel hyn, " Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi." Ni ddyweda ein Tachawdwr y gwna efe amddiffyn eglwysi eraill, neu eglwysi a seil- iwyd gan eraill; ond yn unig y di- ogelir ýr eglwys a seiliwyd ganddo ef ei hun. Hefyd, y mae yn dei- lwng o sylw, na chrybwylla ein Harglwydd Iesu Grist am eglwysi, ond am eglwys—" Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys." Ni seil- iodd efe amrywiol eglwysi, ond un, yr hon a eilw efe " fy eglwys;'» ac feìly yn wahanol i bob eglwysi a chymdeithasau eraill. Ac yn awr y gofyniad ydyw, A ydym ni yn ael- odau o'r eglwys honno, sef yr eg- lwys a seiliwyd gan Grist er ys mwy na deunaw can' mlynedd yn ol ? Neu ynte, Ai aelodau ydym o'r gwahanol eglwysi a'r cymdeithasau a ffurfiwyd o bryd i bryd ar ol hyn- ny ? Y mae amrywiol sectau, cym- deithasau, neufel en gelwir eglwysi, yn y deyrnas hon; ond nid oes un o honynt, oddieithr Eglwys Loegr, ag sydd etto yn dri chan' inlwydd oed ; ac nid ydyw sect yr Irvingiaid, y rhai a ddywedant mai hwy yn unig ydyw Eglwys Crist, ond prin pum mlwydd oed. Yn awr, pa fodd y gall yr holl sectau hyn fod yn eg- lwysi i Grist, pan nad ydynt mewn bodoliaeth hyd yn ddiweddar, ac na chlywyd son am danynt hyd yn y dyddiau diweddaf hyn ? Seiliodd Crist ei eglwys ynghylch deunaw can' mlynedd yn ol, ac nid oes un crybwylliad ei fod wedi seilio yr un wedi^hynny. Ni fu efe ar v ddaear yn weledig wedi ei esgyniad. i ogon- iant; o ganlyniad, rhaid bod yr eg- lwysi a seiliwyd wedi ei esgyniad. yn eglwysi gau, am na seiliwyd ond un ejílwys gyffredinol ganddo ef. Eglwys Crist ydyw yr eglwys henaf ar y ddaear, a'r unig wir eg- lwys sydd mewn hanfodaeth. Seil- iwyd hi yn Jerusalem, a chynhwysai ar y cyntaf ein Iachawdwr bendig-