Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 3. MEDI, 1835. Cyf. I. GWRTHRYFEL CORAH. Ni welodd unrhyw genedl erioed fwy o ryfeddodan lor na deuddeg llwyth Israel, oblegid er pan alwyd Ahraham allan o Ur y Caldeaid, datguddiwyd ci fraich alluog yn eu gwaredigaethau allan o gyfyngder- au, a gwnaed lliosogrwydd ei dostur- iaethau yn amlwg tuag attynt pan oeddynt weiniaid ac ychydig, ac yn cael eu hamgylchynu gan wahanol genhedloedd y ddaear. Bu ei law yn haelionus tuag at Abraham, rhoes íur cadarn oddi amgylch iddo, fel nad allai neb o dywysogion y tir ei niweidio, a gwnaeth iddo gael ew- yllys da arglwyddi yr holl wledydd. I Isaac bu Duw y nefoedd yn warch- eidwadwr ymgeleddgar, a thrwy ys- tod ei hoîl oes yr oedd goruchaf ragluniaethau yr Hollalluog yn dir- ion wrtho, ac yn agor drysau o ob- eithion iddo yn ei gyni mwyaf. Ar- wciniodd Jacob yn ei holl deìthiau, llwyddodd efyn ei holl orchwylion, a phàrodd i'w haul lewyrchu mewn modd neillduol arno tua therfyn ei oes, fel y bu farw mewn henaint teg yng nghanol ei blant a'i gyfneseif- iaid. Pan gaethiwyd yr hiliogaeth sanctaidd a chyfammodol yn' yr Aipht, pan ddarostyngwyd hi ym mheiriau cystudd, a phan ddyrchaf- odd ei gwaedd wylofus i orsedd y nef, wele dir Ham yn llawn o ryfedd- odau Duw, wele faes Soan yn gyfor- îog o'i wyrthiau, ac wele yr Aipht mewn griddfan a gwaeddi obìegid taro o Dduw hi am ei thraha tuag at Israel ei etholedig. Ond er i olwyn- ion cerbydau Ior droelli o'u blaen pan aethant allan o dŷ y caethiwed; er i'w dymhestloedd rwygo y dyfroedd dyfnion er palmentu ffordd o ym- wared iddynt; er i yd y nefoedd gael ei ollwng mewn cyflawnder idd- ynt o ffenestri yr ystordai tragyw- yddol; ac er i'r bryniau oesolgrynu, a'r mynyddoedd tragyfyth neidio a llammu o flaen eu baniar pan gyhwf- anid hi yn yr awelon, etto gwrth- ryfelgar fuont yn eu holl deithiau, a chyndyn iawn yn yr holl lwybrau ar hyd barai y cynniweiriasant. "Cen- figenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron, sant yr Arglwydd. Y ddaear a agorodd ac a lyugcodd Dathan, ac a orchudd- iodd gynnulleidfa Abiram." Nid maes anffrwythlon ydyw hwnnw ar yr hwn y dyrchafodd Corah a'i gym- deithion lummanau ei wrthryfel, ac ar yr hwn hefyd y drylliwyd ef a'i holl gyngrheirwyr ; o ganlyniad, ni a gyfodwn rai tywysennau oddi arno. Ún peth a weìir yn amlwg yng ngwrthryfel Corah, ydyw, y gwrth- wyneba dynion, nid yn unig awdur- dodau gwladol, ond awdurdodau nefol hefyd, er mwyn dyrchafu a gosod eu hunaiu yn bennaethiaid y