Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

10 YR HAUt. mae yn y deyrnas hon ryw chwech neu saith o leoedd o'r enw Newport, ac y mae hyny yn achosi llawer o drafferth i'r llythyrdai. Pa achos oedd yn galw am Tredraeth yn Newport? Dim un gronyn, ond mursendod trwyadl o eiddo Cymry bychain a dirmygus. Y mae son wedi bod er ys bynyddau yn ol, am newid New- port Gwent yn Ushport, gan fod y fath nifer o leoedd yn y deyrnas o'r enw hwnw. Yr ydym yn meddwl fod rhai pobl yn galw Tredraeth, Mon, dan yr enw Newport, yr hyn sydd yn fwy na dyblygiad o'r ffolineb hwn. Y mae gosod dau enw ar lawer lle bychan yn ffolineb dirmygus, ac yn dra- fferth afreidiol i'r wlad, megys galw Tre- wyddel yn Moylgrove; Eglwys Wythyr yn Monington; Mwnt yn Mount; Rhyd- colomenod yn Pigeonsford; Trawsgoed yn Crosswood; Gelli Aur yn Golden Grove; Rhydodyn yu Edwinsford; Trefhedyn yn Adpar, yng nghyd â llawer iawn yn rhagor yn y cyffelyb fodd. Mor urddasol y mae enwau yr hen balasau Cymreig yn seinio; megys Gogerddan, Manhoron, Glyn Llifon, Penmynydd (ym Mon), Nanteos, Bronwydd, Gelli Dywyll, Coed- mawr, Llysnewydd, Gallt yr Odyn, Bwlchbychan, Llanllyr,* Aberglasne, Taliaris, Llanofer, Tredegar, a'u cyffelyb. Y mae yn hollol hanfodol i wybod hanes llawer o leoedd yn ein gwlad cyn deall eu hystyr, gan fod treigliad amser wedi talfyru a newid yr iawn ddull o'u sillebu. Y mae dau le yn ardal Llanybydder o'r enwau Gwrdy Bach a Gwrdy Mawr, ac y mae lle ym mhlwyf Llanddewi Brefi o'r enw Gwrdy, yn gystal ag mewn amryw fanau o'n gwlad heb law hyny. Y mae hanesiaeth yn mynegu mai Gwyryfdy oedd yn ei ffurf gyntefig. Ymddengys mai perthyn i wyryfdai oedd y lleoedd hyn, ac nid yn wyryfdai eu hunain. Y mae lle yn agos i Glynog Eawr, Arfon, o'r enw Bryn y Gwrdy, yr hwn sydd yn cyd- gadarnhau y gosodiad hwn.f Y mae llawer lle yn ein gwlad o'r enw Mynachdy, Maes y Mynach, Dôl Mynach, Bryn Mynach, a rhaid olrhain eu dechreuad yn yr un modd. Y mae lle yn ardal Talsarn, ar lan Aeron, o'r enw College, a gallai llawer un anghy- farwydd ag hanesyddiaeth feddwl fod rhyw fath o goleg wedi bod yno rywbryd. Ond dim o'r fath beth. Y mae y lle hwnw yn eiddo Jesus College, Rhydychain, trwy ewyllys Dr. Gruffydd Llwyd, mab Llanllyr, yr hwn fu yn benaeth y coleg hwnw. Gan fod y Ue yn y modd hwn yn eiddo y Coîlege, cafodd yntau ei alw yn Col- * Gresyn fod yr hen balas hwn yn cael ei sillebu yn Llanttear, a'i gynhanu yn Lanliar. f Gwel nodiadau ar Gyff Beuno gan Eben Fardd, tud. 58. Dywed y nodiad mai Gwyryfdy yw yr ystyr. lege, a dim ond hyny. Y mae Eglwys yng Ngheredigion o'r enw Troed yr Aur, ac oni bai fod genym weithiau Lewis Glyn Cothi ac hen feirdd ereill, buasai yn anhawdd iawn dirnad yr ystyr. Dull cyntëfig yr enw oedd, Tredeyrn, hyny yw, Tref y Brenin, neu Tref Edeyrn. Ÿ mae tref fechan ym Meirion o'r enw Abermaw, ond a elwir yn Bermo, ac yn Seisonig Barmouth. Y mae y talfyriad a wnawd ar yr enw hwn yn ei osod yn lled dywyll, yn neillduol y dul\ Seisonig o hono; ond gan ei fod yn gorwedd wrth aber yr afon Maw, y mae yn hawdd canfod yr ystyr. Dywed y dysgedig Ddr. Puw mai ystyr Mawddach a Mawddwy yw, the overflowing water. Ond i ddychwelyd at ddechreuad ystyr enwau yn ein gwlad, ac felly i gael gweled mor athronyddol yr oedd ein hynafiaid yn y rhan hon o lenyddiaeth. Ym mhell yn ol, pan ddaeth ein hynafiaid i Ynys Prydain, hwy a barthasant y wlad i gan- tretì, cymmydau, a maenorau. Pan fyddai blaenor, neu arglwydd, yn dechreu preswylio mewn man anhygyrch o'r wlad, byddai yn adeiladu preswylfod, a byddai yr annedd yn cael yr enw bod, ac enw yr adeiladydd yn gyssylltedig ag ef; megys Bod Owain, Bod Edeyrn, Bod Forgan.* Ar ol adeiladu bod, byddai y penaeth yn adeiladu tai i'w anifeiliaid a'i bobl; ac ar olgorphen hyn, a chaelpethau i ryw raddau yn gyflëus at fywoliaeth, byddai y cyfan o'r tai yn cael yr enw tref; megys Tref Gaswallon, Tref Hedyn, Tref Gadwgan, a Thref Gawn. Ar ol adeiladu cant o èrefi yn y modd hyn, byddid yn cauad y fiiniau, ac yn galw y rhaniad yn gantref; megys Cantref J Tyno Coch, a Chantref Emlyn: ac er mwyn cyfleusdra cymdeithas, byddid yn rhanu y cantref yn dri chwmmwd, mwy neu lai. Er mwyn dangos athroniaeth yr enwau sylfaenol hyn, y mae yn degdyfynu yr hyn a ganlyn o'r Myvyrian Archeeolgy. "A'r mesur hwnw y mesurws Dyfnwal Moelmud wrth y gronyn haidd; tri hyd gronyn haidd yn y fodfedd; tair modfedd yn lled palf; tri lled palf yn y droedfedd; tair troedfedd yn y cam; tri cham yn y naid; tri naid yn y tir; sef yw y tir, o Gymraeg neu ydd, grwn; a mil o'r tir yw milltir. "Ac o'r mesur hwnw ydys yn arfer etwa, ac y gwnaethant fesur erw gyfreith- iawl o ronyn haidd: tri hyd gronyn haidd yn y fodfedd; tair modfedd yw lled palf» tri lled palf yn y droedfedd; pedwar * Y mae bod yn ei ystyr gyntefig yn cael ei arfer mewn rhanau o'n gwlad hyd heddyw, megys "etif'edd y Bod" (mewn gwawd), etifedd Bodheble, &c. Yr ydym yn ddyledus ir Brython, 1859, tud. 166, am rai o'r syíwadau yn y tudalen hwn.