Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

224 YR HAUL. ym mhen tua saith mlynedd ar ol hyny, aeth yn gurad i Llanbeblig, Caernarfon. Yn y lle hwn y darfu iddo i briodi boneddiges anrhydeddus, o'r enw Miss Jane Morris, Hyd. 4, 1841, merch henaf y Parch. Robert Morris, periglor, Edeyrn, a diweddar o Lan- fachraeth, Meirionydd, yr hon a fu farw rhywbryd yn 1849, gan adael chwech o blant ar ei hol ym myd y gorthrymderau: yr oedd y foneddiges hòno yn un o wehelyth yr hen Archddiacon Prys, Meirionydd, yr hwn a fydrodd y Salmau. Yn 1843, cafodd ei benodi yn beriglor i'r Eglwys newydd a adeiladwyd gan y foneddiges urddasol hòno, Mrs. Oakley yn chwareli Ffestiniog. Ar ol gwasanaethu y lle hwnw am tua wyth mlynedd, cafodd ei ddyrchafu ar y trydydd dydd o Ionawr, 1851, i ficeriaeth Llanidloes, ac yma y gorphenodd ei yrfa ddaiarol, a'i lygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd. Ter- fynaf hyn o fyrnodion, trwy gofnodi yr hyn sydd ar ei gareg fedd:— "In Affectionate Remembrance of Rev. John Parry Morgan, For 16 years vicar of Llanidloes, Died April 12, A.D. 1867, Aged 62 years. Buried on Tuesday, Passion Week, 1867-" Ac heddyw y mae ef yn gorwedd yn ddigon tawel yn ei "argel wely," ac yno y bydd hyd ddyddbrawd, pryd y bydd iddo adgyfodi o lwch y llawr yn ddysglaer fel ei Arglwydd. Llanidloes. R. Powys. ESGORODD, Cottrell—Mehofin 9, yn Heol Las, yn y dref hon, priod Mr. W. H. Cottrell, masnachwr, ar fab. Lewis—Mehefin 3, priod y Parchedig Thomas Lewis, Heol y Prior, Caerfyrddin,. ar fab. Phillips—Mehefin 11, priod Mr. W. T. Phillips, fferyllydd, Heol Awst, Caer- fyrddin, ar fab. PRIODWYD, Daniels—White — Mehefin 24, ym Mountain Ash, Mr. J. H. Daniels, o ariandy y Meistriaid Wilkins a'i Cyf., â Catherine, merch henaf y diweddar Mr. J. W. White, cyffer'iwr. Jones—Vaughan—Mehefin 13, yn Eg- lwys Sant Pedr, Caerfyrddin, gan y Parch. R. Bowen Jones, B.C., periglor Cilymaen- llwyd, yn cael ei gynnorthwyo gan y ficer, y Parch. Latimer Maurice Jones, B.D., Mr. Charles William Jones, mab Edward Bowen Jones, Ysw. (maer presennol tref Caerfyrddin), â Eranees Agnes, ail ferch i'r Milwriad Ýaughan, y ddau o'r dref hon. Lewis—Davies—Mai 27, yn Eglwys blwyfol Islington, gan y Parch. John Green, A.C., David Jones Lewis, Ysw., Llwyn- celyn, Llanwrda, mab henaf y diweddar E. Lewis, Ysw., ag Elizabeth Marianne, unig blentyn y Parch. H. Jones Davis, ficer Caio a Llansawel, ac ynad yr heddwch. Phillips—Hayward—Ebrill 30, yn Eglwys Sant Idloes, Llanidloes, gan y Parch. Charles Phillips, A.C., Llundain, brawd y priodfab, y Parch. E. O. Phillips, A.C., ficer Aberystwyth, â Miss Margaret Eleanor, unig ferch a phlentyn Thomas Hayward, Yswain, Maenol, Llanidloes. Richards—Lewis—Mehefin 20, yn Eg- lwys Dewi Sant, Caerfyrddin, gan yr Hybarch Archddiacon Williams, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. D. Morgan, curad Sant Pedr, Mr. W. Richards, cyfreithiwr, â Marianne, merch henaf Mr. D. Lewis, darllawydd. Williams — Williams — Mehefin 18, yn Eglwys Dewi Sant, Caerfyrddin, gan y Parch. W. Harries, ficer Llanarthney, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. D. Parry, curad yr Eglwys uchod, y Parch. D. Williams, mab i Mr. Williams, Abercothi, a churad Eglwys Dewi Sant, â Frances Archard, merch ieuengaf yr Hybarch Archddiacon Williams. BU EARW, Allen—Mehefin 17, Mr. John Allen, ceidwad y llythyrdy, Pumsaint, Cynwil- Gaio, 74 oed. Edwards—Mai 20, o'r darfodedigaeth, William, mab Mr. Owen Edwards, oriorydd, Caergybi, gynt o Aberffrw, yn 21 oed. Evans—Mai 29, yng Nghaerdydd, Sarah, gweddw y ddiweddar Mr. Samuel Evans, golygydd Seren Gomer, 64 oed. Lewis —Mehefin 17, ar ol hir gystudd. o'r darfodedigaeth, Margaret, merch henaf Mr. William Lewis, Penrhiw, ger Caer- fyrddin, yn 24 oed. Lloyd.—Meh. 9, y Parch. CharlesLloyd, periglor Bettws Bledrws a Cellan, Ceredig- ion, 61 oed. Nicholls—Mehefin 13, ym Mheriglordy Sant Bride Super Ely, Caerdydd, y Parch. Lewis T. Nicholls, 57 oed. Rees—Mehefin 14, Mr. Owen Rees, Ty Newydd, Pembre, yn 67 mlwydd oed, ar ol ychydig ddiwrnodau o gystudd, y rhai a dreuliodd yn amyneddgar, trwy ddirllen ei Feibl, a gwedd'io yn daer ar Dduw. Yr oedd yn Gristion ffyddlawn, priod tyner, a thad teilwng o'r enw. Bu farw yn dawel, gan roddi ei anwyl briod a'i blant i ofal yr Hwn sydd â phob gallu yn ei law, a'r Hwn sydd yn Dad i'r weddw a'r amddifaid. Heddwch i'w lwch.—Dyfodwg. CARMARTHEN: Printed and Published by William Spurrell, at his Printing Office, situate and being at No. 37, King-street, in the Parish of Saint Peter, in the County of the Borough of Carmarthen, on Satur- day the 29th of June, 1867.