Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crçfe (íuafîîàtóti. "TNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI." ec A GAIE DUW YN UöHAF." Rhip. 94. HYDREF, 1864. l¥. 8. PAPYRYN EGLWYSIG Gwresogrwydd Addoliadol. Un o nodweddiadau penaf' a mwyaf han- fodol ein Llyfr Gweddi Gyffredin ydyw, yr atebion cynnulleidfaol, y rhai y dys- gwylir i'r bobl, yn ol hen drefn a dulì yr Eglwys Apostolig Gatholig, eu gwneuthur bob yn ail â'r offeiriad. Mae yn gamsyn- ied o bwys i feddwl mai swyddogaeth berthynol i'r gweinidog ydyw myned trwy y Gwasanaeth Eglwysig; a thrwy y bwlch camsyniadol hwn y daeth cymmaint o oer- felgarwch a difaterwch i fëddyliau ein cynnulleidfaoedd eglwysig. Cyfansodd- wyd gẅasanaeth ein Heglwys yn ol cyn- Ilun boreuol y rhai hyny a arferid o ddyddiau yr Apostolion. Mae yn ffaith hanesyddol, a adroddir gan ysgrifenwyr paganaidd a Christionogol, bod y Cristion- ogion boreuol yn ymgynnull yng nghyd i'r dyben o ganu hymnau o fawl i Grist fel Duw; a bod hyd yn oed y paganiaid yn cael eu tynu i'r Eglwysi gan y canu, canys yr oedd seiniau eu pyncio yn treiglo o ochr i ochr fel tònau'r môr, a'u hamenau yn gyffelyb i daranfolltau. Mae hyn yn profi dwysder a gwresogrwydd addoliadol mawr. Y mae yn amlwg iawn, gan hyny, yn ol trefn, ffurf, a natur gwasanaeth ac addol- iad ein Heglwys ni, os na fydd i'r bobl gymmeryd eu rhan ynddo yn wresog a chalonog, bod ei awch yn cael ei bylu, a'i effaith yn cael ei ddinystrio. Mae yr es- geulusdod a'r difaterwch hwn yn ei oeri; mae ei brydferthwch yn myned o'r golwg, a'r dylanwadau perthynol iddo yn myned ar goll. Nid bod yn bresennol yn addol- iadau cyhoeddus yr Eglwys yw y pwnc sydd yn perthyn i'w chynnulleidfaoedd yn unig, ond bod yn bresennol er mwyn budd, llesâd, ac adeiladaeth ysbrydol eu heneid- 37—vin. iau. Bod yno ì gymmeryd eu rhan yn yr addoliad; bod yno i gydio ac ymuno yn wresog ynddo; bod yno yn gweddio ac yn yindrechu â Duw trwy ffydd, wrth orsedd- fainc y gras, yr h.on sydd yn ei dy, ac yntau, yng nghyfìawnder ei ras, yneistedd arni, i wrando eirchion ei bobl. Collodd ein cynnulleidfaoedd gwledig eu golwg ar hyn, a hyny yn ddiau o blegid esgeulusdra diesgus yr offeiriaid; a thyna pa ham yr aethant mor oerllyd a difywyd. Dyna fel yr aeth, a thyna fel y mae yn bod hyd heddyw yn yr Eglwysi hyny nad yw'r bobl yn cymmeryd eu rhan briodol yn y gwasanaeth. Ond yn yr Eglwysi gwledig hyny, lle mae'r bobl yn cymmeryd eu rhan briodol a pherthynol iddynt yng ngwasanaeth yr Eglwys, y mae yno ar- wyddion o ymafiyd, o ymdrechu, o wres, ac o fywyd addoliadol i raddau mwy neu lai. Ýr wyf am argraffu hyn ar feddyliau ac ar galonau ein cynnulieidfaoedd, sèf eu bod i gymmeryd eu rhan ynddo, megys ag y mae yn perthyn iddynt i wneuthur, er mwyn etifeddu'r fendith sydd mewn cys- sylltiad â'r gwaith. G weddiau yr Eglwys ydynt eu gwedd'iau hwynt, a dylai ein cynnulleidfaoedd eu hystyried felly, a'u gwedd'ío, ac felly i ddyrchafu eu heneidiau at yr Arglwydd, a hyny gyda thaerni gwresog a ffyddiog, fel y byddont yn cyf- eillachu â'r nefoedd trwyddynt. Mae llawer o bobl yn myned i'r Eglwys i fod yn bresennol yno; maent yn Egíwys- wyr o gred a thuedd; ond trwy'r gwasan- aeth, yn ei adael i'r oífeiriad a'r clochydd, megys pe na byddai yn perthyn iddynt hwy: ac yr wyf yn gofyn, pa fodd nad yw y gwasanaeth yn fwy o faich nag o hyfrydwch i'r cyfryw rai? Ond gadawer