Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

H A U L é$m €imfyüìw. YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNL "A GAIE DUW YN UCHAF." Rhif. 93. MEDÎ, 1864. Cyf. 8. EIRIOLAETH ABRAHAM DROS SODOM. Mae rhywbeth, nid yn unig yn ddifyrus, ond hefyd yn adeiladol i'r meddwl, wrth droi yn ol i'r hen oesau boreuol draw, i ddilyn camrau a cherddediad yr hen batrieirch ar hyd ffyrdd a llwybrau yr anialwch. Ac ym mh'ith yr hen batrieirch boreuol, y mae Abraham yn sefyll yn yr orsaf, am i'r Arglwydd sylwi mor neillduol arno; am iddo ei ethol i fod yn gyff cenedl fawr a chadarn; am y cyfammod rhyngddo a'r nefoedd; am yr addewidion a roddwyd iddo; am y profedigaethau a gafodd yn y glyn; ac am ei ffydd ddiffuant yn ei fywyd ac yn ei farwolaeth. Er bod Gwlad Ca- naan yn etifeddiaeth mewn addewid i'w hil- iogaeth, eto pererin a dyn dyeithr fu efe ei hun, yn crwydro megys yn ei wlad etifeddol ei hun; yn lledu ei babell yn y dyffryn hwn heddyw, yn ei lledu ar y bryn draw yfory; ac felly yn fynych yn symmud ei breswylfa, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, mai dyeithr a phererin oedd efe ar y ddaiar. Mae ffydd a duwioldeb A- braham yn nodedig trwy ei holl deithiau: ymgwhwfana yn uchel yn ei gychwyniad wrth lais yr Arglwydd, o Ur y Caldeaid: ymddengys yn fawreddog pau ydoedd yn croesi yr afon fawr Ewphrates; ar ben Moriah ysgwyda megys rhwng ser y nef; ac yn achos Sodom, y mae yn wylaiäd yn cynnal dadl â'r orsedd fawr fendigedig fry, dros estyn trugaredd i'r trigolion. " Yna y dywedodd, O na ddigied fy Ar- glwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid y ceir yno ddeg. Yntau a ddy- wedodd, Ni's dyfethaf er mwyn deg." Dyna gyfran o eiriolaeth Abraham dros Sodom; a thyna ei eiriolaeth dros y trigol- ion; ond nid oedd yno gymmaint a deg o gyfiawnion, ac yr oedd dinystr y ddinas yn anocheladwy. Sodom ydoedd prif ddinas y Pentapolis, neu bum dinas y dyffryn; ac yr oedd drygioni y trigolion 33—VIII. wedi cyrhaeddyd y fath eithafoedd, fel naá oedd y nefoedd i'w ddyoddef yn hwy ar y ddaiar. Dywedir am y dyftryn Ile yr oedd y dinasoedd hyn arno, ei fod yn wastadedd yr Iorddonen^ ei fod oll yn ddyfradwj^; ei fod fel gardd jrr Arglwydd, a'i fod fel tir yr Aipht, ffordd yr eid. i Soar. Ymddengys, oddi wrth fel y cyfryngodá ac yr eiriolodd Abraham dros bobl y dinas- oedd hyn, yng ngwyneb eu bod wedi gwneuthur eu hunain yn agored i'r fath ddinystr ofnadwy, fod eu drygioni wedi effeithio yn ddwys iawn ar ei galon. Mewn perthynas i bechodau trigolion y dyffryn, dywedir fel hyn:—" Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Go- morah yn ddirfawr, a'u pechod hwynt yn drwm iawn." Ac yr oedd Abraham yn gwybod am eu drygioni, ae yn gweled eu bod fel dynion wedi myneä yn is na'r anifeiliaid, wrth ddilyn oferedd eu meddyl- iau, a Ilygredd eu calonau. Teimlai y patriarch duwiol fod eu drygioni yn ffiaidd gan Dduw, am ei fod yn groes i burdeb ei sancteiddrwydd Ef. Gwyddai fod mesur eu hanwiredd wedi ei gyflawnu, a'r cwpan erchyll wedi cael ei lanw. Gwyddai mai peth ofnadwy ydoedd i bechaduriaid mor fawrion syrthio yn nwylaw y Duw byw. Gwyddai y byddai y farnedigaeth, nid yn unig yn druenus i'w cyrfif, fel barnedigaeth dymmorol, ond y gwnai gyrhaeddyd eu heneidiau, fel barnaedigeth ysbrydol, yn oes oesoedd. Gwyddai nad oedd modd iddynt i ddiengyd rhag hon, na gochelyd am dragwyddoldeb y pryf nad yw yn marw, na'r tân nad yw yn diffodd. Yr oedd Abraham yn eu gweled ar ddibyn colledigaeth—yn ymyl craigfawracerchyli eu dinystr; ac os mai syrthio a wnaent, mai codwn tragwyddol a fyddai eu codwm, ac na fyddai iddynt ddyrchafu eu penau yn Otìo oesoedd uwch tònau y llyn o dân. Effeithiai eu trancedigaeth, yn ei chanlyn-