Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

II H A U L . €i\îxw €mxîr\x&m. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 92. AWST, 1864. Cyf. 8. UN O NODION RHYFEDDOL TRUGAREDD DUW. " Eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt."—Esaiah. Dywedib. i Moses naddu dwy o lecfaau «eryg er mwyn derbyn y ddeddf mewn ysgrifen, ac wedi iddo eu tiaddu, iddo godi yn fore, a myned i fynydd Sinai i gyfarfod â .Duw. Wedi iddo esgyn i'r mynydd, dywedir, "A'r Arglwydd a ddisgynodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd. A'r Arglwydd a aeth heibio o'i tìaen ef, ac a lefodd, Iehofah, lehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml 0 drugaredd a gwirionedd; yr fíwn sydd yn cadw trugaredd i fìloedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod." Yn 01 y cyhoeddiad hwn am dano ei hun, y mae Ei'e trwy yr holl oesau wedi ym- ddwyn at blant dynion ar y ddaiar; canys ym mhob oes, ac ym mhob gwlad, ac ym mhlith pob cenedl o ddynion, y mae yr ymadroad canlynol wedi cael ei brofl yn •wirionedd; "Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant pechodau, er gwrthryfelu o honom i'w erbyn." Mae gweithredoedd Duw'Hollalluog yn fawrion, yn gedyrn, ac yn rhyfeddol trwy yr holl greadigaeth; a'r argraff amlj'caf sydd ar ei holl weithredoedd, yn y nefoedd uchod, ac av y ddaiar isod, yw ei drugaredd Ef; canys y mae ei drugaredd Ef yn cyrhaedd hyd y nefoedd, a'i wìrionedd hyd y eym ylau; ac yng ngwyneb y cyfnewidiadau aml sydd yn cymmeryd lle, y mae trugar- edd yr Arglwydd yn parhau yr un ac yn anghyfnewidiol yn dragywydd. Mae y gair trugaredd, yn y defnydd a wneir o houo yn yr Ysgrythyr Lân, yn arwyddocäu amrywiol bethau; ac ym mhlith amrywiol bethau ereill a aüesid enwi, y mae yn arwyddocäu y briodoledd hòno yn y Duwdod, trwy yr hon y mae Efe yn tosturio wrth, ac yn gwaredu plant dynion o'r trueni raawr y maent wedi 29—vm. myned iddo trwy bechod; megys yn Epistol Sant Paul at Titus; " Nid o weithredoedd cyfiawnder, y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol ei drugaredd yr achubodd Éfe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnew- yddiad yr Ysbryd Glân." Yng ngwyneb trosedd dyn yn Eden, ymledodd nos ddu, dywyll, ac arswydus damnedigaeth dros y byd, yn nychrynfëydd yr hon y buasai Adda a'i hiliogaeth yn ymbalfalu yn oes oesoedd; ond trwy i'r drugaredd y sonia Sant Paul am dani yn ei Êpistol at Titus, i deyrnasu at ddyn cj'frgolledig, trodd y nos yn ddydd, symmudodd y fendith i dir y felltith, a gwasgarodd fywyd ynnhiriog- aeth marwolaeth! Tatìodd dyn ei hun, trwy anufudd-dod, i afaelion damnedigaeth dragwyddol, ac yr oedd cyfiawnder, gwir- ionedd, ac uniondeb llywodraeth yr Ar- glwydd yn ei gloi yn y carchardy, ac i fod yn wylwyr wrth borth ycarchar anobeith- iol, na buasai i gael ei ryddhau yn dra- gywydd. Ond yn gymmaint a bod trugar- edd achubol dragwyddol yn y blwch aur, yng nghyssegrfa y deml yn y nef, ac i'r blwch hwn gael ei agor yn nydd adfyd a chyfrgolli Eden, daeth trugaredd allan o hono, ac heb wneyd unrhyw drais ar gym- maint ag un o briodoliaethau'r Duwdod, hi agorodd ddrws carchardy colledigaeth dyn- ion, a chan ddal gwaed y pridwerth yn uchel, bloeddiodd, a pharhâ i floeddio, Pardwn a chadwedigaeth i'rpenaf o bech- aduriaid trwy hwn! Rhwng darnau yr Aberth mawr, ar fyn- ydd Sion, y mae Duw Dad o'r nef ya bloeddio yn udgorn yr Efengyl, " Eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt; " canys ar fynydd Sinai, nid oes, ac ni cheir neb ond Moses, yn chwythu mwg, tân, mellt, a tharanau colledigaeth ar holl deulu dyn, yr hwn wrth natur sydd dan y felltiẁ. Y