Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HAÜL €i\fxm tofijriáŵt. yng ngwyneb haul a llygad goleuni. "a gair duw yn uchaf." Rhif. 85. IONAWR, 1864. Cyf. 8. Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD. Y gaüap ydoedd hi, ac yr oedd hi yn oer iawn. Yr oedd cör asgellog y llwyni wedi peidio â'u cân—y dail wedi syrthio oddi ar y coed—y meusydd wedi èa diosg o'u gwyrddlesni, a'u hulio â haenen deneu o eira. Yn lle cerddoriaeth yr adar, ceid tw hŵ y ddylluan: yn Ue pelydrau siriol yr hauí, yr oedd chwibaniad oer y rhew- wynt. Taflai y lloer ganaid ei goleuni tanbaid ar y bryniau a gylchynent bentref unigol ac anghysbell Maenor, nes yr oedd- ynt yn ymddangos fel pe buasent wedi eu goreuro. Yr oedd yn lled hwyr; ac yr oedd y pentrefwyr yn gorwedd yn dawel ym mreichiau Morphëus er ys meityn. Nid oedd dim swn i'w glywed yn un lle: yr oedd yn ddystawrwydd perffaith ym mhob man, gyda'r eithriad o furmur yr afon, wrth deithio tua'i chartref. Yr oedd y ìlwybr oedd yn fy arwain tua'm cartref yn myned trwy ganol y fynwent. Pan oeddwn yng nghanol y fynwent, clywn yr hen awrlais oedd ar y clochdy, â'i dôn bruddaidd, yn taro dau. Ychydig latheni o'm blaen, ac heb fod ym mhell o'r llwybr, gwelwn ryw un yn eistedd yn ymyl bedd. Áethym i'r Ue, pryd y gwelwn ddau blentyn bychan yn eistedd, un o bob tu i fedd, ac yn wylo. Tarawyd fi â gradd o syndod, wrth wéled plant.mor fychain yn y'fan hòho, ár ÿr amser hwnw o'r nos, a dechreuais eu holi rywbeth yn debyg i hyn:— . , " Pa beth yr ydych yn ei wneyd yma yr amser hyn o'r nos?" • " Eistedd i orphwys wrth fedd ein mam," oedd eu'hat'eb. " Plant i bwy ydych? a pha beth ydyw eich enwau? " " Plant i Tomos Llwyd, y saer, Syr; a'n henwau ydyw, Gruffydd ac Elen." "Pa faint sydd er pan fu farw eich mam ? " " 0 ddeutu blwyddyn, Syr." 1.—VII. "A fu hi yn hir yn sal ? a pha beth oedd ei hafiechyd?" " Na ddo; dim ond o nos Sadwrn hyd dydd Mawrth. Daeth fy nhad adref nos Sadwrn, wedi meddwi, a darfu iddo ei chicio a'i thaflu i lawr dros y grisiau, a thorodd rhywbeth yn ei brest; ac ni bu byw ond hyd boreu dydd Mawrth." " Pa le y mae eich tad? A ydyw ef ddim yn gofalu am danoch ? " "Y mae yntau wedi marw hefyd; a dacw ei fedd ef yn y gongl acw," gan gyfeirio i gwr arall y fynwent. " Ar ol marw ein mam, ymollyngodd ef i feddwi yn waeth nag erioed; ac ni fn byw ond tri mis ar ei hol." "A oes arnoch ddim hiraeth ar eu hol? " "Am ein mam, y mae arnom hiraeth mawr ar ei hol hi, a chawsom golled fawr wrth ei cholli; ond am ein tad, hid oes arnom ddim hiraeth ar ei ol ef; canys pan oedd yn fyw, ni chawsem ddim ond ein curo a'n baeddu ganddo yn wastád. Pan ddeuai adref yn y nos, byddai yn ein llusgo o'n gwelyau, ac yn ein curo, o eisieu ein bod wedi gwneyd swper iddo. A phan ddywedem nad oedd genym ddim bw^'d yn y ty, tyngai a rhegai, o eisieu ein bod }'n cardota peth iddo. Ac er ein bod heb gartref yn unlle, na neb i ofalu dim am danom, er hyny, yr ydym yn hapusach fel hyn, nag oeddym pan gyda'n tad." "A oes genych neb yn perthyn i chwi yn unlle i gymmeryd gofal am danoch? " " Oes, y mae genym fodryb, chẅaer ein tad; ond nid gwiw i ni fyned yn agos at dy hòno, am ein bod yn rhy garpiog; a'r tro olaf y buom yno, bygythiodd daflu dwfr berwedig am draws ein penau, am ein bod yn dyfod i'w gwaradwyddo hi." Wedi rhoi ychydig geiniogau iddynt, gadewais hwynt, wedi cael un o'r darîun- iau goreu o'r niwed sydd o ymwneyd â'i diodydd meddwol.