Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R HAÜL. dftjfrça ẅrfrçrìẁm. YNG NGWYNBB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAP." Rhif. 84. RHAGFYR, 1863. Cyp. 7. CAREDIGRWYDD DDECHREUA GARTREF. Yr oedd gan Siraon Jones ryw ddull rhyfedd o briodoli a chymhwyso hen ddiar- ebion, ac i ddefnyddio doethineb yr hen oesau sydd gwedi myned heibio, i ateb ei ddybenion a'i wasanaeth ef ei hun. Ni ddywedai efe, megys y mae yn arferiad gan y cyffredin i ddy wedyd, " Y piser a ollyngir yn fyuych i'r pydew, a dyr yn y diwedd;" ond efe a ddywedai, " Y piser a ollyngir i'r pydew, a lenwir yn y diwedd." Os byddai iddo gael rhywbeth fyddai rhyw un wedi golli ar y ffordd, ni ddywedai, " Yr hyu sydd o werth i'w gyfodi, sydd o werth i'w adferu i'w berchennog;" ond dywedai, " Yr hyn sydd o werth i'w gyfodi, sydd o werth i'w gadw." Nid wyf yn sicr pa un a ydyw Sirnon Jones yn fyw yn bresennol neu nad ydyw; ond yr wyf yn sicr o hyn, ei fod wedi gadael hiliogaeth luosog ar ei ol. Y mae llawer iawn o ddynion yn myned oddi amgylch y wlad, i gymhwyso i'w hamcan- ion a'u gwasanaeth eu hunain, nid yn unig ymadroddion doethineb yr bynafìaid, ond hyd yn oed ymadroddion yr Ysgrythyr Lân ei hun. Ac y mae llawer iawn o bobl hefyd, y rhai ni wyddant ond y peth lleiaf o'r Ysgrythyrau, neu ddim, yn derbyn dy- wediadau ac ymadroddion, y naill oddi wrth y llall, megys pe baent yn cael eu llefaru gan y Beibl, pan nad ydynt, mewn gwirionedd, ond aralleiriad halogedig ar yr Ysgrythyrau, annheilwng hollol o honynt, ac yn groes hollol i'w hystyr- iaethau. Mae yn angenrheidiol i ni siarad yn ddealladwy ac eglur â'r personau hyn, 'ag sydd yn yr arferiad o ddefnyddio rhyw ymadroddion i ateb eu hamcanion hwy eu hunain, a'r ymadroddion hyn ar y pryä yn wallus, ac yn arwain i gyfeiliornad o bw^'s, gyda golwg ar weithredu yn uniawn ger bron Duw. Nid ydyw'r "dywediad mai gartref y mae caredigrwydd yn dechreu, 45.—vii. neu i ddechreu, yn ymadrodd ysgrythyrol; canys nid ydyw yr Ysgrythyrau yn cry- bwyll dim o'r fath beth. A chwychwi, y rhai a arferwch ddywedyd y cyfryw ymad- rodd, gan feddwl eu bod yn ysgrythyrol, neu yn seiliedig ar yr Ysgrythyrau, a blygwch y Beibl i ateb eich dybenion.eich hunain. Yr ydych yn ceisio benthyca awdurdod y Beibl i esgusodi ac i gyfiawn- hau eich cybydd-dod eich hunain. Mae yn gywilydd genych arddel eich egwydd- orion isel a bawlyd yn eu hanianawd gwir eu hunain, a'r canlyniad y w, eich bod am < iddynt gael eu derbyn fel gwirioneddau ysgrythyrol. Caredigrwydd yn dechreu gartref! Mae hyn yn gwrthdaro yn erbyn y Beibl, ac y mae hyn yn groes i egwyddor fawr yr Efengyl. Egwyddor doethineb ac arferion y byd hwn yw yr egwyddor hon, i esgusodi dynion rhag cyflawnu'r dyled- swyddau hyny ag sydd yn orphwysedig- arnynt. Rhy wbeth yn gyffelyb i hyn oedd myfyr- dodau Tomos Gronw, pan oedd yn myned adref un Sul o wasanaeth boreuol Eglwys ei blwyf. Fel yr oedd yn ymdynu at ei artref, aeth heibio i dy William Siencyn, a throes i mewn, ac a welai William yn eistedd ar yr hen gadair wrth y tân. Yr oedd Tomos Gronw yn ddyn haelfrydig ryfeddol, ac yn llawn caredigrwydd ac haelioni crefyddol i bob rhyw achosion o gyfyngder a chaledi a roddid dan ei sylw, ac i'w ystyriaethau; ac yr oedd ganddo neges neillduol i alw gyda William Siencyn y Sul hwn, er ei fod braidd yn gwybod yn hollol y buasai yn aflwyddiannus yn ei neges. Bob amser pan geisid cynnorth- wyon Wilìiam Siencyn, yr un oedd yr atebiad; " Mae caredigrwydd yn dechreu gartref." Bob amser yr elai Tomos Gronw ato, ym mhob rhyw achosion fyddent yn galw yn uchel am gynnorthwyon, i geisio ganddo gyfranu' rhywfaint, ei ateb fyddai,