Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A U L €rfxm €müì\xìM\u YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A gair duw yn uchaf." Khif. 76. EBRILL, 1863. Cyp. 7. Y CAIS CALED. " Gofîdion angeu a'm cylchynasant." Yr oedd dyn yn sefyll wrth y drws; ac ymddangosai yn eglur ei fod mewn trallod mawr. Yr oedd tua chanol oed, yn dal, ° wneuthuriad cadarn, ac wedi ymwisgo yn nillad cyffredin gweithiwr. "A welwch chwi fod yn dda," ebai ef, " i droi i mewn *r ty, i weled dynes ag sydd yn ymyl öiarwolaeth." Atebais, " Gwnaf, yn ddi- ammheuol; " ac yna, efe a drodd ar un- ^aith, megys pe buasai mewn brys i ddangos i mi y fíbrdd; a minnau a'i can- tynais ef. Y ty, i'r hwn y'm harweiniwyd, \'doedd yn sefyll mewn íle cefn, cul, ag ydoedd yn arwain i un o brif heolydd yr adran oedd wedi cael ei rhoddi dan fy ngofal. Yr oedd yn un o'r tai cyífredin a berthynent 1 r dosbarth isel; un ystafell ar y llawr, ác un ystafell-wely uwch ben, yn yr hon yr °edd yr holl deulu yn cysgu. Ond nid °edd angenrhaid i mi fyned i'r ystafell uWch ben, canys yr oedd y ddynes y ceis- lvvyd genyf ddyfod i'w gweled, yn gorwedd ar gadeiriau ger fy mron. Y ddynes hon °edd gwraig y dyn, ac mewn ymddangos- îad, wedi cael ei chymmeryd yn glaf yn ddisymmwth, pan yng nghanol gwasanaeth ei dyledswyddau teuluaidd; canys heb law fod y llinynau oedd oddi amgjdch e} gwddf, yng ngh}'d â'r cap oedd am e} phen, wedi cael eu symmud, yr oedd yn ei dillad cyffredin. Yr oedd yn glaf, ac yn glaf iawn—ei gwynebpryd yn amryliw, ac agos a bod yn ddu—ei phen yn go- gwyddo dros ymyl y gadair, a gwaed yn dyferu o'i geneu i lestr ag oedd ar y llawr yn ei hymyl. Iy ngofyniad cyntaf oedd, os oeddynt wedi anfon am feddyg; ac er fy syndod, yr atebiad a gefais oedd, nad oeddynt. Yn ei atebiad, yr oedd y dyn yn ochelgar; ond dywedais, " Ewch at Mr.--------. yn umongyrchol, canys efe yw'r Uawfeddÿg 13.—vn. nesaf at law." Clywodd y dyn fi; ond nì wnaeth unrhy w ysgogiad. " Mae'r ddynes yn ddrwg iawn," meddwn; " ac y mae yn rhaid i chwi ymofyn am feddyg." Edrychai y dyn arnaf. Yr oedd ei wyneb yn welw; ac ymddangosai ei fod mewn gwasgfa yr ymdrechai ei chuddio. Ebai ef, " Syr, ni allaf fyned at Mr.---------, canys yr ydym yn ei ddyled; ac nid wyf yn meddwl y daw." Cymmerais ddarn o bapyr o'm [llogelî, ac ysgrifenais ychydig linellau arno, i geisio ganddo ddyfod ar unwaith; ac wrth roddi'r papyr i'r dyn, dywedais wrtho am fyned ag ef, ac y byddwn i yn atebol am bob gofynion a wneid. Ni phetrusodd y dyn, druan, ddim ym mhellach; ond mewn mynyd, aeth ymaith â'r papyr at y meddyg. Yn y cyfwng hwn, penliniais yn ymyl y fenyw glaf: yr oedd mewn ingdirfawr: yr oedd yn galed arni i anadlu, ac i ryddhau ei gwddf oddi wrth y gwaed a dywerchai ynddo ef. Canfuais na ellai siarad; ac felly, mi a weddiais. Yr oedd tri neu bedwar o blant yn yr ystafell, yma ac acw; ac edrychent megys pe buasent wedi dychrynu. Cyn hir,'dychwelodd y^dyn, a'r meddyg gydag ef, yr hwn, wedi ychydig ymchwil ac ymholiad, a ymddangosai ei fod yn deall yn hollol natur ei dolur; ac wecU rhoddi'r cyfarwyddiadau angenrheidiol, prysurodd ymaith, er mwyn anfon cyfferi iddi. Ond cyn iddo ymadael, dywedais wrtho, " Yr ydych i ddeall, fy mod i i dalu am bob peth a anfonwch." Wedi hyn, ymadewais innau; a daeth gwraig o gymmydoges i'r ty, yr hon a ymgymmerodd at y gorchwyl o barotoi pethau yn ol cyfarwyddiadau'r meddyg. " Tlodais, ac Efe a'm hachubodd." Pan yr ymwelais drachefn â'r ty, yr hyn a wnaethym yn yr hwyr, yr oedd y