Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfojfas torfyîìẁiiL " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A gair duw yn uchaf." Rhif. 73. IONAWR, 1863. Cyf. 7. Y CYNGHREIRIAU CREFYDDOL. Cyfansoddodd Moses, dan gyfarwyddyd yr Arglwydd, yr Eglwys Iuddewig yn un eorff; ac yr oedd i fod yn Eglwys genedl- aethol, deuluaidd, a phersonol i ddeuddeg llwyth Israel. Ond dyn, yn y cyflwr ag y mae ynddo dan bechod, a wrthwyneba, ac a wrthddadleua hyd yn oed yn erbyn sef'- ydliadau Duw ei hun, ac a wna bob ym- drechion yn ei allu, i'w dinystrio. Eel hyn y bu mewn perthynas i'r Eglwys luddewig, canys erbyn ei bod wedi cael ei sefydlu yn yr anialwch, wele Corah a'i gymdeithion, a chynnulleidfa y rhwygwyr, er mwyn hunanddyrchafiadau, a chael cytìeusderau i borthi eu balchder, i ddangos eu hunain, ac i fod yn wỳr mawrion yng ngolwg y bobl, yn ymgymmeryd â'r gor- chwyl o'i dryllio, ac i wneuthur Eglwys newydd, yn ol cynlluniau eu mympwyon llygredig eu hunain. Yn Llyfr y Barnwyr, yr ydym yn cael yr Eglwys hon, a hyny yn fynych, yn cael ei gadael gan y werin, a phan y byddai'r bobl yn gadael eu Heg- lwys, dywedir fod meibion Israel "yn ychwanegu gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd." A phan y byddai y bobl fel hyn yn troi eu cefnau ar eu Heglwys, ac yn ei gadael hi, nid oeddynt, mewn ymddangosiad, yn gadael, ac yn ymwrthod â chrefydd; canys yr oeddynt yn ymuno mewn cymmundeb ag Eglwysi Baal, ag Eglwysi Astoreth, ag Eglwysi Milcom, ag Eglwysi Chemos, ac ag Eglwysi Moloch. Yr oedd hyn yn ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd. Yr oeddynt yn pechu yn erbyn yr Arglwydd trwy wneuthur hyn; ac nid gwiw iddynt ddy- wedyd fod hawl ganddynt i farnu a dewis drostynt eu hunain ym mhwnc eu crefydd, yng nghyd â'u bod yn gydwybodol yn eu gwaith yn ymadaeí â'r Eglwys Genedl- aethol; canys ni dderbynid eu hesgusodion gyda Duw. Un oedd yr Eglwys luddewig, yr hyn a 1,—VII. osodir allan yn fynych yn Ysgrythyrau yr Flen Destament, ac yn neilhìuol felly yn Llyfr y Salmau, " yn Ierwsalem a adeilad- wyd fel dinas wedi ei chydgyssylltu ynddi ei hun." Uù ydoedd y íerwsalem naturiol ac ysbrydol; ac fel un Ierwsalem y mae'r Salmydd yn ychwanegu, " Ynoyr esgyn y llwythau, sef llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel i foliannu enw yr Ar- glwydd. Canys yno y gosodwyd gorsedd- feinciau barn, gorseddfeinciau ty Dafydd, Dymunwch heddwch lerwsalem: llwydded y rhai a'th hoffant. Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dy- wedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. Er mwyn ty yr Arglwydd ein Duw y ceisiaf i ti ddaioni." Un gorfforiaeth fawr oedd yr Eglwys Iuddewig trwy yr oesau; a phan fyddai ei gweinidogion wedi myned yn esgeulus, 'ie, yn halogi ei chyssegroedd, a phan y byddai ei gwasanaeth yn cael eì lygru gan y rhai a weinyddent ynddo, trwy eu pechodau, nid oedd duwiolion Israel yn ymadael â'i chymmundeb, ac yn ymffurfìo i wahanol gymdeithasau sect- yddol; ond yn ymlynu wrth euHeglwys— yn ymdrechu ei phuro, a'u griddfanau yn dyrchafu i'r nef, am gael bywyd adnew- yddol iddi. Yr oedd yr Eglwys hon yn isel yn amser y Prophwyd Malachi; ond yn lle ymneillduo oddi wrthi, ac ymffurfio yn sectau, yr oedd ei duwiolion yn glynu wrthi; ac yn lle ei gadael, ymgymmerasant â gwaith ag oedd yn fwy cymmeradwy gan y nefoedd; "Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymmydog; a'r Arglwydd a wrandawodd, ac a gíybu; ac ysgrifenwyd llyfr coífadwr- iaeth ger ei fron Éf, i'r rhai ocdd yn ofni yr Arglwydd, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw Ef." Rhwygo ac ymneillduo oddi wrth yr Eglwys íuddewig ydoedd pecbod mawr a phorfforaidd leroboam