Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. lil ẅjfns <f aBrfyrìẁin. 'yng ngwyneb haitl a llygad goleuni.' 'A GAIR DITW YN ITCHAF.' Rhifyn 133. IONAWR, 1896. Cyf. XII. YR ESGOB OAMPBELL, 1813—1895. Ganwyd James Colquhoun Campbell yn y flwyddyn 1813 yn Stonefìeld, swydd Argyll. Mab ydoedd i John Campbell, Ysw. Wilhelmina ydoedd enw ei fam, ac yr ydoedd hithau yn ferch i Syr James Colquhoun, Barwnig, Suss., swydd Dunbarton. Ymbriododd yr Esgob Campbell yn 1840, pan yn rheithor Merthyr Tydvil, â Blanche Bruce, merch John Bruce, Ysw., Duffryn, sir Forganwg, a chwaer y diweddar Arglwydd Aberdar. Addysgwyd yr Esgob Campbell yng Ngholeg y Drindod, Caer- grawnt. Cymmerodd safle anrhydeddus yn yr arhol- iadau athrofaol, o blegid yr ydoedd yn Sen. Opt., ac yn 2nd Class Cl. Trip. Graddiodd yn B.A. yn y flwyddyn 1836, ac yn M.A. yn 1839, gan Dr. Copleston, esgob Llandaf. Bu yn rheithor Merthyr o'r flwyddyn 1844—59; deon gwladol, 1844—47; canon mygedol Llandaf, 1852—57; archddiacon Llandaff, 1857—59. Ar farwolaeth y Dr. Bethell, esgob Bangor, yr hyn a ddygwyddodd ar y 19ydd o fis Ebrill, 1859, penodwyd yr Archddiacon Campbell fel ei olynydd gan Arglwydd Derby. Cyssegrwyd ef gan yr Arch- esgob Sumner ym mis Mehefin, 1859. Efe ydoedd yr esgob cyntaf er y flwyddyn 1715 a eisteddodd ar orsedd esgob Bangor yn deall yr iaith Gymraeg, o blegid yn y flwyddyn hòno y trosglwyddwyd yr Esgob John Evans o Fangor i Meath yn yr Iwerdd- on. Rhwng y flwyddyn 1715 a'r flwyddyn 1859 bu pymtheg o esgobion yn eistedd ar orsedd esgobol Bangor, pob un o honynt yn Seison heb ddeall gair o Gymraeg. Nid rhyfedd felly i benodiad yr Esgob Campbell i Fangor achosi cryn lawer o foddhâd, am ei fod yn gallu Uefaru yn iaith y bobl. Yr ydym yn cofìo yn dda yr amgylchiad pan y cyhoeddwyd fod 1—xü. yr Esgob Campbell yn myned i bregethu yn Gym- raeg yn y gosper a gynnelid yn nave Eglwys Gadeir- iol Bangor. Pan ddechreuodd ' hen gloch fawr ' yr Eglwys Gadeiriol swnio ei thonau cryfìon allan o'r tvvr gorllewinol am chwarter i chwech o'r gloch, dylifai tyrfaoedd trwy ddrysau gogleddol a deheuol yr Eglwys, a llanwyd y nave yn llawn o wrandawyr —nifer fawr o ba rai oeddynt yn Ymneillduwyr— wedi d'od yno i wrando esgob yn pregethu yn Gym- raeg! Yr ydoedd hyn yn beth newydd am yn agos i gant ä hanner o flynyddau cyn hyn. Yr ydys yn cofio yn dda edrych ar y gynnulleidfa anferth o loft yr organ ar yr amgylchiad—a'r gauaf oedd hi. Er fod yn achos o gryn foddhâd fod yr esgob yn gallu siarad Cymraeg, ofnwn mai siomedigaeth go arw ydoedd i'r gwrandawyr pan yn gwranclo ar Gymraeg tyllog yr Esgob Campbell. Nid ydys yn gwneyd y sylw hwn mewn un modd yn sarhäus, o blegid cred- wn fod yr Esgob Campbell wedi dysgu yr iaith Gymraeg yn ogystal ag y gallai unrhy w Sais ei dysgu; ond rhaid addef mai methiant ydoedd ei ymgais. Yn wir, addefodd yr Esgob Thirlwall, er ei holl alluoedd meddyliol, mai methiant ydoedd ei ymgais i feistroli y Gymraeg; a chredwn fod yr iaith Gym- raeg yn gorwedd fel hunllef ar feddyliau yr esgobion Cymreig a ymdrechasant ei meistroli. Yr ydys yn cofio gwrando ar yr Esgob Hughes o Lanelwy yn pregethu yn Gymraeg ar ol hyn yn y flwyddyn 1872, ar achlysur ail agoriad Eglwys Gadeiriol Bangor. Wrth reswm, yr oedd y gwahaniaeth yn anghymharol yn ogystal a'r effeithiau. Yr oedd yr Esgob Hughes yn llefaru ei iaith gynhenid, tra yr oedd yr Esgob Oampbell yn llefaru mewn iaith estronol. Er hyn i gyd, treuliodd yr Esgob Oampbell ei holl fywyd gweinidogaethol yng Nghymru. Dichon mai nid annerbyniol gan eich darllenwyr fyddai y dyfyniad