Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

H A U L. %\\ Ütfm (ínMfipJẁin. YNG NGWYNEB HATJL A LLYGAD GOLETTNI. "A gaie dtjw yn uchaf." Ehifyn 125. MAI, 1895. Cyf. XI. DIGOEFFOEIAD Y MYNACHLOGYDD YNG NGHYMEU. MYNACHLOG BWLCH Y GROES, LLANGOLLEN. {Valle Crucis Abbey.) Un o enwadau, neu frawdoliaethau crefyddol, mwyaf poblogaidd y Canol Oesoedd oedd y Mynachod Gwynion (Cistercian Order o/Monlcs). Diwygwyr aidd- gar a hunanymwadol oedd y rhai hyn yn y dechreu. Daethant i gryn ddylanwad ac enwogrwydd yng Ngorllewin Ewrop yn gynnar yn yr unfed ganrif ar ddeg. Torasant drosodd i Loegr yn lled fuan; ymledaenodd y diwygiad neu adfywiad crefyddol drwy eu gweinidogaeth danUyd ac effeithiol dros y wlad. Pregethwyr teithiol neu genadol oeddynt ar y cyntaf, cyffelyb i ddiwygwyr Cymreig y ganrif ddiweddaf, ac ni ellir ammheu eu difrifoldeb, defos- iwn, a duwioldeb. Yr oedd eu hamcan a'u gwaith yn dda. Cyrhaeddasant Gymru yn nechreu yr unfed ganrif ar ddeg. Cawsant Gymru mewn cyflwr cref- yddol isel. Yr oedd yr hen fynachlogydd a chorau Eglwysig Cymreig boreuol wedi heneiddio, colli eu hyni cyntefig, a syrthio, os nad suddo, i gryn lawer o lygredd ac adfeilio. Ac yr oedd yr offeiriaid gwledig (secuhr clergy) yn dra annysgedig, isel eu cyflwr, a diymgais at wella cyflwr crefyddol y wlad. Ond bu teimlad crefyddol y Cymry erioed yn hawdd ei gynhyrfu. Derbyniwyd y diwygwyr gwresog yn llawen. Ymgasglodd lluoedd i'w croesawu ym mhob ardal, a dechreuodd y cenadon hyn sefydlu achosion yng Nghymru, fel y gwnaethent ytn mhob gwlad ac ardal arall yn Ewrop. Yr oedd gan y cenadon neu frodyr crefyddol hyn awdurdod uniongyrchol oddi wrth y pab i bregethu a sefydlu achosion, capelydd a mynachlogydd ym mhob man y gallent, heb un çaniatâd oddi wrth esgobion yr ardaloedd hyny. Nid 9—%\, oedd gan esgobion Cymru un awdurdod ar y frawd- oliaeth hon, nac ar y mynachlogydd a sefydlid gan- ddynt. Yr oedd y Mynaehod Gwynion yn urdd (order) grefyddol dlawd ar y dechreu, ond fel yr oedd eu henw da yn ymledu, a nifer eu hedmygwyr yn cynnyddu, fe ddaethant yr urdd neu enwad crefyddol cyfoethocaf yng Nghymru. Cymmerodd y tywysog- ion Cymreig hwy dan eu nodded. Tua'r flwyddyn 1200 sefydlwyd brawdoliaeth o'r Mynachod Gwynion "yng nglŷn Egwestl" gan Madog ab Gruffydd Maelor, tywysog Powys. Dechreuodd Madog hefyd adeiladu y fynachlog a ddaeth yn fuan mor enwog, ac a adnabyddid wrth yr enw Mynachlog Glyn y Groes, ac yn llyfrau y mynachod, Vatte Crueis Äbbey. Erys ei hadfeilion hyd eto i dystio ei mawredd a harddwch o dan gysgod yr Eglwyseg tua milltir o Langollen, yng nghyfeiriad Ehuthyn. Nid hir y bu Mynachod Gwynion y fynachlog heb ennill ymddiried yr ardaloedd amgylchynol, ac araf gawsant feddiant o'r awdurdod uchaf ym mhlwyfydd Llangollen, y Waun, Ehiwabon, Gwrecsam ; i'r dwyrain—Llan- degla, Llandyssilio, Bryn Eglwys, ac hyd yn oed Llangwm i'r gogledd-orllewin. Graddol hawliodd abadau Mynachlog Bwlch y Groes yr awdurdod i benodi ficeriaid amryw o'r plwyfydd a enwyd, ac aethant â'r degwm yn llwyr o ddau o honynt, a mwy na dwy ran o dair o ddegwm y gweddill. Erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, yr oedd y fynachlog hon wedi cyrhaedd urddas mwy nag esgob- ol. Yr oedd Abad Llanegwestl, neu Pynachlog Glyn y Groes, fel ei gelwid ar y pryd, yn sefydliad o urddas pendefigol, yn gyfoethog, ac enwog am ei llettygarWch ac elusengar haelioni. Yn wir, dyma un o nodweddion amlwg yr hen fynachlogydd. Cai yr hen, y gwan, a'r afiach ymgeledd yno, a derbyniai y dyeithr letty croesawgar; ond ofnwn na byddai pob crwydryn a dderbynid i mewn yn angel gwyn,