Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lü êì\fxm €mxîi\ùìim. yng ngwyneb haul a llygad goleuni. "a gaie, duw yn uchaf." Ehifyn 122. CHWEFEOE, 1895. Cyf. XI. Y BEIBL A'E BEDYDD. " I'w gyflwyno i Dduw." " I roddi enw arno." " Oblegid fod eisieu." " Dyna fydd pawb yn ei wneyd." Pedwar ateb gaed gan bedwar o bersonau i'r gof- yniad, "Pa ham yr ewch â'ch plentyn i'w fedyddio?" "Nid ydoedd wedi ei fedyddio, ac felly nis gallaf ei gladdu gyda'r gwasanaeth arferol." " Ond yr oedd wedi ei registro: yr oeddwn yn meddwl fod hyny yr un peth." Ymddyddan â thad â'i unig blentyn wedi ei gymmeryd ymaith. Hyawdl dyst- iolaethau o gyflwr niwlog syniadau y dydd ar bwnc pwysig y Sacrament Sanctaidd o Fedydd. Er chwilio ni chaed olion cred yng nghyflwyniad gras. A ehan mai dyna gyflwr pethau oddi allan, ofnwn rhag ym- ledu o'r niwl a chuddio banau athrawiaeth y Bedydd o olwg Eglwyswyr hefyd. Ofnwn, oblegid colli cred yn rhoddiad gras drwy y sacramentau ydyw un o'r gorsafoedd cyntaf ar y rheilffordd oriwaered a ar- weinia drwy Undodiaeth i anffyddiaeth. Ac y mae'r presennol yn gyfnod o ddadsefydlu a diorseddu hen syniadau ae athrawiaethau. Ored, er gweled pa le y gorwedd ei sylfaen, yn cael ei siglo. Goleuni newydd yn cael ei ollwng i fewn ar hen bynciau. Golygfa eangach oddi ar safle uwch ar fynydd gwybodaeth yn cywiro camsyniadau parthed mawredd a byehamder cymhariaethol y gwahanol wrthddrychau. Aml i fryncyn a ystyrid yn fynydd a llawer afon nas gwelsid o'r blaen i'w gweled fel y maent. Erbyn heddyw canfyddir nad yw yr hyn ystyrid yn fynyddoedd mawrion—ffaeleddau yr Eg- Iwys yng ngolwg y gwahanol enwadau—ond megys ponciau tywod y dwnen a godir, a symmudir, neu a chwelir gan wyntoedd y gauaf. Bywyd a hanes Ymneillduaeth Gymreig—i'r hanesydd—nid yw ond 3—xi. un chwarel fechan yng nghwr ffenestr fawr amryliw hanesyddiaeth yr Eglwys. Neu a chymmeryd enghraifft neillduol fel esampl. Trugain mlynedd yn ol ymddangosai y rhesymau dros i'r Methodist- iaid ymadael o'r Eglwys megys dyfroedd nofiadwy nas gellid sefyll yn eu herbyn ; ond heddyw teimlir gan y dysgedig a'r deallus yn eu mysg mai dybryd gamgymmeriad gyflawnwyd. Ym mysg pynciau ereill a wyntyllir y mae'r sacrament o Fedydd. Dull, deiliaid, ac effaith y sacrament wedi d'od eto yn destynau dadl. A rhag dygwydd ysgwyd ymaith y gwenith gyda'r us, priodol fyddai, nid yn gymmaint ateb ond, gofyn y gofyniad, Beth a ddywecl y Beibl ar y pwnc ? GWAHANOL OLYGIADAU. Gellir dosbarthu syniadau ar Fedydd yn dri dos- barth. Sail yr hwn ddosbarthiad ydyw yr atebiad i'r gofyniad, " A ydyw Bedydd yn rhywbeth mwy nag arwydd allanol? "• A yw Duw drwy y Bedydd fel offeryn yn rhoddi gras i'r bedyddiedig ? 1. Y Zwingliaidd. Zwingli ydoedd cychwynydd y Diwygiad yn Switzerland, cyn d'od o Galvin i'r inaes. " Ammhosibl yw," meddai ef, " i unrhyw beth allanol gadarnhau na chryfhau ffydd fewnol dyn." " Nid ydyw bedyddiad allanol â dwfr yn gwneyd dim tuag at olchiad pechod ymaith."1 Nid yw Bedydd, yn ol y golygiad hwn, ond arwydd allanol syml heb unrhyw ras yn rhwym wrthi. Syn- iad newydd a dyeithr ydoedd hwn y pryd hyny; eithr coleddir ef yn awr, ni a gredwn, gan gyfangorff yr Ymneillduwyr. 2. Y Catholig neu yr Eglwysig. Dysgeidiaeth yr Eglwys drwy y canrifoedd fu ac ydyw, mai nid 1 Opp. ii. 63b, 60,