Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. €ŵm ŵrrMMn. " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A gair duw yn uchap." Rhifyn 317. MAI, 1883. Cyf. 27. YR EGLWYS A'I LLYFÍfc GWEDDI. (Parhâd o dudalen 123.) SyLWER fod y wyneb-ddalen yn nodi pum dosbarthiad eglur o'r Liturgi. 1. Llyfr Gweddi Gyffredin—sef y Foreol a'r Brydnawnol Weddi, i'w dywedyd beunydd a'u harfer trwy'r flwyddyn. 2. Gwein- yddiad y Sacramentau—gau gynnwys y colectau, yr epistolau, a'r efengylau priodol i'r Suliau a'r gwyliau yng ngwasanaeth y Cymmun Lendigaid. 3. Deddfau*a defodau ereill yr Eglwys [Gyffredinol] yn ol arfer Eglwys Lloegr—megys y Catecism, Gweinyddiad Priodas, Gonffîrmasiwn, Ymweliad a Chymmun y Claf, &c. 4. Y Saìlwyr, neu Lyfr y Salmau. 5. Yr Urddlyfr (ordinal), sef ffurf o wneuthur, u**ddo, a chyssegru esgobion, oífeiriaid, a diaconiaid. Goddefer ychydig frawddegau y.n y fan hon ar yr ymadrodd Yr Eglwys ; sef yr Eglwys a adnabyddir oddi tan yr amrywiol dermau— " Yr Eglwys Gyffredinol," " Yr Eglwys Lân Gatholig," " Holl Eglwys Gatholig Crist," " Yr un Gatholig ac Apostolig Eglwys"—o ba un nid yw Eglwys Lloegr yn honi bod ond rhan neu aelod yn unig : un o gangenau "pren mawr" y ddammeg. Y mae catholiciaeth a rhydd- frydigrwydd ysbryd Eglwys Lloegr mewn perthynas i Eglwysi eraill 1 w fawr edmygu, gan ei fod yn groes ryfeddol i ac yn rhagori yn urddasol ar gulni gwrthun a thrahäus Eglwys Rhufaiu, yr hon a'i gesyd yn sine qua non i iachawdwriaetn dragwyddol i allu hawlio aelodaeth ynddi a choleddu yn gyflawn "y ffydd gatholig," megys ag y dysgir ym mhenderfyniadau cynghor Ti'ent a chredo Pius V. Ei hathrawiaeth haerllug yw mai hi, a hi yn unig, yw yr Eglwys—" Ei Briod Ef," "Ei Gorff Ef," " Uu gorlan" yr uu Bugail Mawr. Oddi allan i'w muriau mae " y cŵn" paganaidd a'r holl wrthryfelwyr sismaticaidd, â pha rai y crochlefa nad yw Crist yu cydnabod yr un berthyuas, ond a drengant heb drugaredd, ac yn ddwbl ddiammheuol, •Jruaiu, os i'w rhifo ym mysg yr hereticiaid Protestauaidd, y rhai uid ŷnt antigen na llestri wedi eu cymhwyso i ddigofaint—ar ba rai yr ymhoffa 25—xxvn.