Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(CtjftMi ŵrftjrìẁin. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIE DUW YN UCHAP." Rhifyn 316. EBRILL, 1883. Cyf. 27. CYFIEITHAD A CHYFIELTHWYR Y BEIBL CYMRAEÖ. PENNOD III.----YR ESGOB DAVIES A THOMAS HUET. Richard Dayies, adnabyddus w.rth yr enw " Yr Esgob Davies," ydoedd fab i Dafydd ab Gronw, curad y Cyffin, ger Conway, sir Gaernaríon. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1501 mewn lle a elwid. " Plas-y-Person." Gan fod ei dad yn wr o ddysg, credir i'r esgob dderbyn ei addysg foreuol dan eì ofal ef. Wedi hyny aeth i berffeithio ei hnn mewn addysg i New Inn, Rhydychain. Yr oedd dau Ddavies ■—a'r ddau yn wŷr mawr a dysgedig—yn cydoesi yn agos i'w gilydd, sef Thomas Davies, yr bwn a wnaed yn esgob Llanelwy ar ddyrchafiad Richard Davies i gadair esgobol Ty Ddewi; yng nghyd â'r di- weddaf a enwyd. Ond er fod y ddau yn Ddavies, y ddau yn esgob, a'r ddau yn cydoesi, eto Iîichard Davies yw yr un a adwaenir wrth yr enw clodwiw " Yr Esgob Davies." Yr oedd y blaenaf yn wr o ddysg a duwioldeb, ond yn fwy tawel a gwastad yn ei ddyledswyddau na Richard Davies. Gwnaeth Richard Davies ei hun yn adnabyddus ar gyfrif y gwaith a gyflawnodd, yr hyn ni chyflawnwyd gan ei gydoeswr Thomas Davies. Yn y flwyddyn 1550, derbyniodd Richard Davies fywoliaeth Burnham gan y brenin Edward VI., yr hon fywoliaeth a ddaliodd yng nghyd â Mahlsmoreton, swydd Buchingham. Nid hir dawelwch oddefwyd iddo ef a'i deulu i fwynhau y bywoliacthau hyn, canys ym T»ihen tair blynedd wedi ei benodiad iddynt, bu farw y brenin da Edward VI., a dilynwyd ef gan ei chwaer Mary, yr hon a adwaenir wi'th yr enw " Mari Waedlyd." Yr ydoedd a:an Mari elyniaeth farwol i bob peth gwrth-babyddol, a buan iawn y dangosodd hyny i'w deiliaid. Ar y tân hwn, ydoedd eisoes yn llosgi gormod yn ei chalon, taflai Bonner a Gardiner olew cenfigen, llid, a malais, nes gwneuthur y (ìeyrnas drwyddi yn fath o chwil-lys, ac felly yn annyoddefol i bob gwir Brotestant. Yr oedd priodas Mari â "Phylip o'r Hispaen yn tueddu i waethygu yn hytrach na gwella pethau. O'r flwyddyn 1553 19—xxvn.