Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L (ítjftB ŵrfîjrìẁk "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIB DUW YN UCHAF." Rhif. 312. RHAGFYR, 1882. Cyp. 26. YR EGLWYS A'R WLADWRIAETH YN FFRAINC. Mae y pwnc yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn Ffrainc yn cyflymu at gyfnod pwysig; ac y mae y fath symnmdiad yn deilwng o sylw pob Prydeiniwr i chwilio i mewn i fanylion sefyllfa y sefydliad, ac i'r can- lyniadau sydd yn debyg o gymmeryd lle os dygir i ben amcan y Rhadicaliaid eithafol. Mae perthynas yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn Ffrainc yn hollol wahanol i'r hyn ydyw Eglwys Lloegr, yn gystal am natur y meddiannau a fwyuhëir gan yr Eglwys a'r arolygiaeth a ymarferir gau y Wladwriaeth dros achosion ysbrydol y deiliaid. Yn Lloegr mae'r esgobion a'r offeiriaid yn cael eu cynnal gan ddegymau a thiroedd, y rhai yn wirfoddol a i-oddwyd er lles yr Eglwys, ae y mae y Llywodraeth yn amddiffyu ei meddiannau. Yn Ffrainc mae'r esgobion a'r offeiriaid yn cael eu tâl gan rodd wladwriaethol, yr hon 8ydd yn dyfod yu flynyddol tua 1,8000,000 o bunnoedd, pa swm a gynnyddir gan roddion chwanegol a ddarperir gan y cynghorau taleithiol a breiniol, y rhai a ddeuant tua 400,000 yn chwanegol, gan wneyd y cyfan tua 2,200.000p. Mae'r offeiriaid Ffrengig fel hyn yn cael eu talu yu uniongyrchol o'r trethi, yr un fath a'r fyddin a'r llycges, neu unrhyw swyddogaeth o eiddo y Wladwriaeth. Yn Lloegr, ar y llaw arall, uid yw yr Eglwys byth yn perthyn i rifnodau codeuau {budgets) Caughellyd y Trysorlys. Nid oes un rodd seneddol yn cael ei rhoddi iddi gau y Llywodraeth. Ni thelir ei hesgobion a'i hoffeiriaid allan o'r trethi. Mae ei chyllid yn dedüaw o ffynnonellau llawer o honynt oeddynt yn agored iddi cyn y Gorchfygiad Normanaidd; o blegid y mae Eglwys Lloegr yn awr yr un ag oedd yr Eglwys a fodolai yn y wlad hou er ys rhagor na 1000 o flynyddau yn ol, a'r bywyd parhaol hwn yu yr Eglwys drwy wahanol gofuodau yu hanes y genedl sydd yn ei gwneyd mor auwyl i'w haelodau. Wrth son fel yma am feddiannau yr Eglwys, rhesymol mynegu fod llawer iawn o diroedd yn perthyn i'r Eglwys Gymreig er dyddiau teuluoedd Brychan a Chunedda Wledig. Mae y tiroedd sydd ym mhlwyf Llanddewi Brefi, a llawer plwyf arall, yn eiddo i'r Eglwys er y cyfuod hwnw. Yn Ffrainc, o'r tu arall, mae 67—xxvi.