Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL €\\îxm €wîîî\úìw. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI.' "A gair duw yn uchap." Rhif. 302. CHWEFROR, 1882. Gyp. 26. HYNAFIAETH EGLWYS LLOEGR À'I HORDINHADAU. Nid oes nemawr o ddynion i'w cael heb goleddu syniadau parehus am hynafiaeth a henaint. Pan ydym ger bron personau hybarch sydd wedi myned heibio i'r amser terfynedig i ddyn ar y ddaiar, a'r gwallt oedd unwaith yn ddu fel y frân yn awr yn hougian yn llywethau ar- ianaidd dros y war grymedig, nis gallwn lai na theimlo fod parch ac anrhydedd yn ddyledus iddynt ar gyfrif eu hynafiaeth. Felly yr ŷm yn teimlo pan yn syllu ar yr hen adeiladau anghyfannedd sydd yn britho ein gwlad, y rhai sydd heddyw yn nythleoedd i'r cigfrain hyfìon. Nis gallwn lai na chondemnio y dwylaw a'u gwnaeth yn angbyfannedd, fel y gwnaeth y diweddar Deon Conybeare pan ymwelodd â Mynachlog Llan Honddu: aeth o amgylch ei muriau gan gyhoeddi melltith ar goffadwriaeth Harri VIII. am ddinystrio y fath adeilad gorwych ac hynafol. Ym mhlith ein sefydliadau sydd yn friglwyd gan henaint y mae Eglwys Lloegr yn fwy hynafol nag un sefydliad arall; y mae "hynaf- iaeth" wedi ei gerfio ar ei gwyneb. Nis gall neb sydd yn adna- byddus â'i hanes wadu hyn, ond addef yn rhwydd nad oes un Eglwys o fewn Cred mor hynafol yn ei chýfansoddiad, yn ei hathrawiaethau, ei ffurfwasanaeth, ei hurddau, &c. Nid yw yr Eglwysi ereill ond rhai diweddar mewn cymhariaeth. Nis gallant olrhain eu hanes yn ol at y brif Eglwys, yr Eglwys Apostolaidd, pan nad oedd ond un gorlan ac un bugail. Gall Eglwys Lloegr ymffrostio nid yn unig yn ei hathraw- iaethau, ei harferion, ei gweinidogion, ond yn ei ffurfiad, ei chyfan- soddiad, a'i hanfodiad hynafiaethol. Nid peth i'w ddirmygu yw hyn- atìaeth un amser, ac yn neillduol hynafiaeth ffydd a chredo, hynafiaeth y cyfansoddiad eglwysig, hyuafiaeth urddau sanctaidd a swyddog- aethau cyssegredig yn yr Eglwys. Dadleuir mai yn Eglwys Rhufain y cafodd Eglwys Lloegr ei bodolaeth, ac nad yw ei chyfansoddiadau ond yr hyn a gymmerodd o Eglwys Rhufain yn amser y Diwygiad Protestanaidd pan ysgydwodd Harri VIII. iau y pab o Rufain ymaith. Yn awr mi ymdrechaf ysgubo gwe y pryf copyn, yr hwn sydd yn gorchuddio llygaid llaweroedd yn ein hoes ni. Yr wyf yn gwadu y 7—xxvi.