Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R A U L. éîjtó itefyrìẁia. Rhip. 190. "YNG NGẄYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAP." HYDREF, 1872. Cyp. 16. CAN SANT AMBROS. "Ti Dduw a folwn," &e. Ar nos y Pasc, yn y flwyddyn 387, gwelwyd un o esgobion duwiol yr Eglwys yn sefyll yng nghwmni ei ddysgybl wrth brif allor Gristionogol Miìan. Yr oedd yr olaf newydd gael ei dderbyn i'r Eglwys trwy Fedydd. Chwyddodd calon Sant Ambros o'i fewn pan alwodd ei ddysgybl wrth ei enw newydd Awstin: torodd allan i glodfori Duw — "Ti Dduw a folwn: Ti a gydnabyddwn yn Ar- glwydd." A'r newydd-fedydd.iedig yn ateb, gan ddyrchafu ei lygaia a ì ddwylaw, " Yr hioll ddaiar a'th fawl Di, y Tad tragwyddol." Canodd y ddau bob yn-.aij, fel pe buasent wedi cael eu hysbrydoli, yr hymn ar- dderchog hon sydd wedi cael ei chanu yn Eglwys Crist am yu agos i bymtheg cant o flynyddoedd. F-el hyn y cyfansoddwyd y gân enwog hon, medd yr hanes, ac nid oes un acho's i ammhen yr hanes Y mae yn wir fod rhai yü baruú iddi gael ei hysgrifenu gan Nicetius, esgob Triers, yn 535. ' Daeí.h i arferiad cyffredinol yn fuan, ac mae ei hanes yn un tra dyddorol Çauwyd hi wrth ddechreu llawer brwydr waedlyd ar faes y gad. Canwyd hi. er mor anaddas/ar ol llawer brwydr. Can. wyd hi ar lawer o achosion dinod a dialw. 46—xvi. Cauadd y merthyron hi pan oeddynt yn aberthu eu bywydau dros y ffydd. Pan welodd Columbus a dwylaw ei longau wastadedd America, a'r coed palmwydd a'r pinwydd, torodd allan i gauu cân Sant Ambros Pan gyr- haeddodd yr anturiaethwyr Ffrengig eneu y Missisippi, darfu iddyntanerch y weilgi â chân Sant Ambros. Cym- merodd amgylchiad cyffelyb i gyf- ansoddiad y gân hon le rhwng Wesley a Whitfield yn Fetter Lane. Pan anwyd mab Marguente o Naverre, yn Blois, yr oedd yu etifedd y goron, gobai.th y tywysogion, a phob rnwyn- der daiarol yn gwenu arno. Sym- mudodd Duw ef yn ei ddoethineb o'r byd yn ei fabandod. Yr oedd ei fam yn meddwl y buasai iddo gael ei adferu iddi, er fod y rhai oedd yn gweini iddo yn dywedyd ei fod wedi marw. Pan welodd y fam fod y cwbl drosodd anfonodd am ei phrif swydd- ogion. a rhoddwyd gorchymmyn fod y Te Deum i gael ei chanu yn hoil Eglwysi er lleddfu ei galar. Canwyd yr hymn mewn gorymdeith- iau lireninol. Pan goronwyd Rhisiart III. a'i Frenines annedwydd, Ann o Warwick, ychydig feddyliodd y gormeswr gwaedlyd y buasai i'r uu gân gae] ei chanu ar faes Bosworth, yr