Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R HAÜL, <li\îm ẅrfyrìẁin. " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "Â GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 189. MEDI, 1872. Cyf. 16. DEíLLIAD YR YSBRYD GLAN ODDI WRTH Y TAD A'R MAB. (Y Filioque.) Un o'r dadleuon mwýäf pwysig ac annymunol, ac a barodd un o'r ymran- iadau mwyaf galarus yn yr Eglwys, oedd y ddarìl yng nghylch deilliad yr Ysbryd Glân; sef. a ddeilliodd Efe o'r Mab yn gystal ag o'r Tad, ynte o'r Tad yn unig y deilliodd Efe. Nid annyddorol hwyrach i ddarllenwyr yr Haul fydd cnel yma grynodeb byr o'r ddadl fawr hon. . Yng Nghynghor Cyffredinol Nicea, B.A. 325, yr oedd y geiriau, "A chredaf yn yr Ysbryd Glân, yr Arglwydd a'r Bywiawdwr," heb y geiriau ychwanegol, " Yr hwn sydd yn deilliaw o'r Tad a'r Mab," fel ag y maönt yng Nghredo Nicea, fel y mae genym ni yn awr yng Ngwasan- anaeth y Cymmun. Ond yng Nghynghor Cyffredinol Caergys- tenyn, B.A. 381, fe ychwanegwyd y geiriau, " Yr hwn sydd yn deilliaw o'r Tad." Ac yng Nghynghor Cy- ffredinol Ephesus, B.A. 431, pender- fynwyd nad oedd dim ychwauegiad arall i gael ei wneuthur at Gredo. Nicea. Sylwer, mai cynghorau Eg- lwys Groeg oedd y rhai hyn yn benaf, ac ar y tir hwn o ffydd y saif Egiwys Groeg yn ddiysgog hyd heddyw. Ond mae Tadau yr Eglwys Ladin 41—xvi. bob amser, wrth ystyried y manau hyny o'r Ysgrythyr lle y sonir am yr Ysbryd Glân fel Ysbryd Grist, a chael o hono ei ddaufon gan y Mab, yn dadgan ei fod wedi deilliaw o'r Tad a'r Mab (Filioque). Mae Tadau Lladin mor fore a St. Ambros a St. Awstin, Esgob Hippo, yn dadgan deilliad yr Ysbryd o'r Tad ac hefyd o'r Mab; ac am mai St. Awstin sydd yn Uefaru yn helaethaf ar y pwnc, mae Eglwys Groeg yn ei gyhuddo mai efe a ddyfeisiodd yr ychwanegiad Filioque. Ond ni chododd nemawr 0 ddadl yn Egiwys Groeg ar y mater, hyd nes y canfu hi fod rhai o'r Eglwysi Gorllewinol a Lladin, megys lîglwysí Ffrainc a Spaen, yn dadgan fod yr Ysbryd yn deilliaw o'r Tad a'r Mab, gan ychwanegu'r ymadrodd Filiogue at Gredo Caergystenyn, yn erbyn penderfyniad Cynghor Ephesus yn B.A. 431. Tua dechreu'r nawfed ganrif, appel- iwyd at y Pab Leo III., a phender- fynwyd mewn Synodjn Aquisgrahum na ddylid gwneuthur dim ychwaneg- iadau at Gredoau'r Egiwys. Ond ar 01 hyny bu cweryl tost rhwng y Pab Nicolas I. a Photius, Patriarch Caergystenyn. Ond Ignatius, y