Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R A U L. (íîjfrra ŵríîírìẁra. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAE." Rhip. 183. MAWRTH, 1872. Cyf. 16. GONESTRWYDD MASNACHYDDOL. Mab poblogaeth Prydain Fawr a'r Ynysoedd Prydeinig yn cynnyddu yn ddirfawr er 'ys amryw oesoedd, yn ol fel y gwelir wrth y cyfrifiad deng-mlynyddol. Ac y mae cynnydd ein poblogaeth yn brawf o helaeth- rwydd ein hadnoddau, ac o'n llwydd- iant cyíFredinol fel teyrnas, ac o gyflwr iechyd rhagorol deiliaid y Frenines, ac o ansawdd boddhaol moesau da y bobl ar y cyfan. Mae anfoesoldeb, yn enwedig yn y mater- ion ag sydd yn dwyn cyssylltiad ag ystâd priodas, ac yng nghadwraeth Dydd yr Arglwydd, yn gwanychu cyfansoddiad corffbrol y bobl, ac yn tueddu i leihau eu nifer, fel ag y mae Ffraincannedwydd yn esampl: mae'r wlad hòno yn ddychrynllyd o ddiífygiol yn y ddau rinwedd pwysig hyny. Mae hi yn wlad sfäniwair, heb ganddi nemawr o barch i sancteidd- rwydd priodas, nac i sancteiddrwydd y Sabbath; ac y mae'r genedl oll, oddi gerth mewn rhai ardaloedd gwledig, Ue mae'r trigolion yn fwy rhinweddol, ỳn dyoddef o ganlyniad. Ac nid oes ond ychydig o olwg am le i obeithio y bydd yno ddiwygiad buan. Mae llawer o effeithiau daionus yn deilliaw o gynnydd ein poblogaeth. Ond ar yr un pryd y mae yn rhaid 11—xvi. i ni gyfaddef fod hefyd yn dilyn rai anfanteision. Ond byddai yr anfan- teision yn fwy pe na byddai llawer o'r boblogaeth yn ymfudo i wledydd tramor. Heb hyn, byddai y deyrnas yn rhy lawn o bobl ym mhen ychydig o fiynyddoedd; ac fe fyddai adnoddau ein gwlad yn rhy fychan ar gyfer y preswylwyr. Ac y mae cyfleusderau a manteision ymfudiad yn tueddu i gyfartalu poblogaeth yr amryw wled- ydd. Ond os ä pethau ym mlaen am gan mlynedd eto fel y maent yn awr, bydd gwyneb y ddaiar breswyl- iadwy yn tynu yn brysur at fyned yn rhy fach i gynnal y trigolion. Ond, fel yn y byd anifeilaidd, mae gan ddeddfau Rhagluniaeth ddarpar- iaethau ar gyfer gwneuthur y gwrth- bwysiad angenrheidiol ar gyfer amrywiol amgylchiadau y byd dynol hefyd. Un anfantais sydd yu dilyn yn naturiol oddi wrth gynnydd prysur ein poblogaeth, ydyw hyn—bod gyrfa bywyd yn myned yn yrfa rhy wyllt. Dan yr amgylchiadau sydd yn gys- sylltiedig wrth gynnydd nifer y bobl, mae yn fwyfwy anhawdd ennill bywoliaeth; mae yn fwyfwy anhawdd cael sefyllfaoedd cysurus i ennill bara* ac y mae y rhedeg sydd yn yr yrfa hon yn rhedeg cyfiymach; ac mae yn