Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. "yng ngwynèb haul a llygad goleuni." "a gaie duw yn uchaf." Ehip. 180. EHAGFYR, 1871. Cyf. 15. Y CYNAUAF YW DIWEDD Y BYD. Traeihodyn ymarferol ar y ddammeg yn Sant Marc iv. 26—29. "Ac Efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i'r ddaiar; a chysgu a chodi nos a dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu y modd nas gŵyr efe: canys y ddaiar a ddwg ffrwyth o honi ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ol hyny y dywysen, yna'r yd yn llawn yn y dywysen. A phan ymddangoso'r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynauaf." Fe fyddai yr Arglwydd Tesu yii arfer oymmeryd ei ddammegion oddi wrth yr amgylchiadau mwyaf cyffredin a hysbys i'w wrandawyr; ac yn fynych, fel ar yr achlysur presennol, oddi wrth weithrediadau amaethyddol. Ac y mae y rhan fwyaf o'i ddammegion wedi eu cymmeryd oddi wrth y pethau mwyaf cynnefin, nid yn unig yn y wlad hòno, ond hefyd yn ein gwlad ninnau, a bron ym mhob gwlad arall. Yn newisiad gwrthddrychau ei ddammegion ynte, mae yn amlwg y byddai ei lygaid prophwydol Ef yn cymmeryd i mewn yr amser pan y byddai yr holl genédloedd yn eistedd wrth ei draed Ef i dderbyn addysg ac adeiladaeth oddi wrth ei ddam- megion. Ac felly yr oedd yn hyn yn gwneuthur darpariaeth ar gyfer adeiladaeth ei ddilynwyr ym mhob oes a gwlad, o'r pryd hyny hyd pan ddelai y cynauaf mawr, sef diwedd y byd. Ac wrth ei draed Ef y mae darllenwyr y sylwadau hyn yn awr yn eistedd i wrando y ddammeg sydd 56—xv. yn y testyn, ac i dynu oddi wrthi, dan ei fendith Ef, gynnaliaeth a chysur i'r enaid. Yr ydym i sylwi, yn y lle blaenaf, mor fanol y mae ein Hiachawdwr yn crybwyll y gwahanol weithrediadau. Mae yn ein cymmeryd megys gerfydd ein llaw i fwrw golwg gydag Ef ar holl weithrediadau hau a medi, a'r egino, a'r tyfu, a'r addfedu ag sydd yn cymmeryd lle yn y cyfamser rhwng yr hau a'r medi. Ac mae yr Eglwys, dan arweiniad ei Ysbryd Ef, yn dysgu i ni erfyn yn y Litani, gyda golwg ar yr holl weithrediadau hyn, "Teilyngu o honot roddi a chadw er ein lles, amserol ffrwythau'r ddaiar, fel y caffom mewn amser dyledus eu mwynhau." Mewn gair arall, mae y ddammeg dan ein sylw yn cael ei hawgrymu i ni bob tro y dywedir y Litani. Ond i fanylu: "Fel pe bwriai ddyn had i'r ddaiar." Yr ydym yma yn cael portreiad o'r amaethwr yn bwrw yr had ar gwysau'r maes yn yr amser