Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. "yng ngwyneb haul a llygad golbüni." "a gaie duw yn uchaf." Ehip. 179. TACHWEDD, 1871. Cyf. 15. TWYLL Y GÁLON. Mae tri pheth neillduol yn y Beibl y sonir am eu twyll—twyll golud, twyll pechod, twyll y galon. Ystyr y gair twyll yn yr ymadroddion hyn yw siomedigaeth, sef y siornedigaeth ag y mae'r dyn hwnw yn sicr o'i gael ag sydd yn ymddiried yn ei oLud; y siomedigaeth ag y mae pechod yn ei ddwyu bob amser gydag ef; a'r siom- edigaeth ag yr ydym yn rhwym o'i brofi os ymddiriedwn yn y galon. I. Mae golud yn siomi dyn, yn un peth, am nad ydyw yn cynnyrchu y mw"ynhâd a ddysgwylir oddi wrtho. Nid oes dim lle i feddwl fod y cyf- oethogion yn fwy hapus pobl nag ereill, os mor hapus. A phan y byddo dyn cyfoethog yn fwy hapus dyn na'i gymmydogion, yr ydym yn gallu canfod bron bob amser mai nid ar ei gyfoeth y mae ei hapusrwydd yn ymddibynu, ond ar ry w amgylchiadau ereill. Ac yn ail, mae cyfoeth yn beth siomedig, am nad oes wybod pa ddiwrnod y gwna efe iddo ei hun adenydd, a ffoi ymaith, a'n gadael niewn tlodi. Ac y mae pob dim ag sydd fel hyn yn gyfnewidiol ac an- wadol, yn rhwyrn o fod yn beth siomedig a thwyllodrus i'r neb a hydero arno. II. Mae pechod hefyd yn beth twyllodrus a siomedig. Nid oes dim 51—xv. yn fwy siomedig a thwyllodrus nag ydyw pechod. Mae yr Ysgrythyr yn son am fwyniant pechod; ond mae chwerwder, bustl, a wermod yn gym- mysg â'r mwyniant; ac ar ol i'r mwyniant ddarfod, mae'r chwerwder, a'r bustl, a'r wermod yn aros: canys yn y diwedd, mae pechod yn pigo fel sarff, ac yn brathu fel neidr. Ac ar y cyfrif hwn, heb son am ystyriaethau mwy pwysig, mae pechod yn rhy ddrud; canys os mynwn gael ei fwyn- iant, rhaid i ni hefyd ddyoddef ei chwerwedd, a'i wermod, a'i fustl. Ao y mae hyny yn fargen rhy ddrud, canys nid yw mwyniant pechod ddim yn gwrthbwyso y chwerwedd, a'r bustl, a'r wermod, yn y fantol; mae y chwerwedd, hyd yn oed yn y fuchedd bresennol, yn llawer iawn mwy na'r hyfrydwch a'r pleser. Ao ara hyny y mae pechod yn sarhâd, nid yn unig ar grefydd ac ar orchymmyn Duw, ond hefyd ar synwyr cyffredin ac ar ddeddfau cyfansoddiad y natur ddynol. Mae pob pechod ynte yn llawn siomedigaeth a thwyll, yr un fath ag y mae pob purdeb ac uniondeb yn llawn sylwedd a gwirionedd di- ffuant. III. Twyllygalon. Hynywtestyn y traethodyn presennol. Nid oes dim yn twyllo, hyny yw, yn siomi dynioa