Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. 'm tywrf&râ&m YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIE DUW YN UCHAF." Rhif. 177. MEDI, 1871. Cyf. 15. CLYCHAÜ YR EGLWYS. Nid oes nemawr o ddynion i'w cael nad ydynt yn hoffi clywed swn pereiddlawn cloch y Llan; y mae cloch y Llan yn alluog i wneyd peth na all unrhyw offeryn cerddol arall, sef peri i ddyn lawenhau a pheri iddo alaru. Nid oes ond ychydig mewn cymhariaeth yn adnabyddus ag hynafiaeth clychau a'u dybenion, am hyny wele ychydig o'u hanes. Yr oedd clychau mewn ymarferiad yn y Dwyrain, fel cwmpawd y morwr, a phylor, cyn iddynt gael eu harfer yn Lloegr. Yr oedd gwisgoedd yr offeiriaid Iuddewig yn cael eu harddu â chlychau. Yr oedd y Rhufeiniaid a'r Groegiaid yn arfer rhoddi clychau am yddfau eu ceffylau. Yr oedd yn arferiad yn yr hen amseroedd i anfon dynion â chlychau yn eu dwylaw o amgylch trefydd caerog i gael gweled pa un a oèdd y gwylwyr ar ddihun ai peidio. Yn Ffrainc y defnyddiwyd clychau yn yr Eglwysi gyntaf, yn y flwyddyn 550. Pan dedd byddinoedd Clothaire yr Ail, brenin Ffrainc, yn gwarchae arSens, dychrynodd clychau Sant Stephan hwy yn gymmaint nes iddynt oll redeg ymaith. Canwyd clychau yn Bosra a Syria pan oedd y Saraceniaid yn ymosod ar y Cristion- ogion o fíaen y ddinas; canwyd clychau yn Ierwsalem yr un amser. 41—xv. Paulinus, esgob Nola, yn Campania, oedd y cyntaf i'w dwyn i ymarferiad yn yr Eglwysi Lladinaidd. Ceir cyfeiriadau aml yn ysgrifeniadau yr hanesyddion Cristionogol at yr arfer- iad o guro morthwylion coed i alw y bobl i'r Eglwysi. Gorchymmynodd Pacomius, tad y mynachod Aiphtaidd, i udgyrn gael eu defnyddio yn eu lle. Dechreuwyd defnyddio clychau yn Eglwys Groeg yn y flwyddyn 865, pryd y rhoddodd Dug Venice un yn anrheg i Michael, yr ymherawdwr Groegaidd. Yr Hybarch Bede oedd yr hanesydd cyntaf yn Lloegr a wnaeth gyfeiriad at glychau. Yr oeddynt yn cael eu defnyddio mewn llawer o Eglwysi cyn y fiwyddyn 816. Yn y fíwyddyn 960 yr oedd canu clychau yn yr holl Eglwysi yn gy- ffredinol. Y mae y Seison yn hoff o ganu clych; yr oedd yr hen bobl yng Nghymru yn hoff i'w ryfeddu o ganu clych, ond nid yw felly yn aẃr mewn llawer o blwyfi: yr ydym yn gwybod am luaws o Eglwysi lle y mae clychau ardderchog i'w cael, ond. nid ydynt yn cael eu canu un amser. Geilw cenedloedd ereill Lloegr yn Ringing Isle. Yr oedd un amser gymdeithasau rheolaidd o ganwyr clychau: sefydl- wyd un gymdeithas enwog, yr hon a