Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L 'm (ftòrfetttóm. £CYNG NGWYNEB HAUL A LLYGAB GOLEUNI. "A GAIR BU"W YN UCHAP." Rhip. 172. EBRILL, 1871. Cyp. 15. BRECH Y FUWCH. Gan fod y frech wen wedi ymddangos mewn rhai o drefydd Cymru, nid anfuddiol fyddai rhoddi ger bron ein darllenwyr rai ffeithiau a ffugrau yn dangos pa mor fuddiol yw'r arfer o osod brech y fuwch ar y rhai nad ỳnt wedi cael y frech wen, fel moddion i'w diogelu rhag y clefyd arswydus a dinystriol hwnw, ag sydd, y mae yn debygol, yn fwy heintus nag unrhyw glefyd y mae dynolryw yn ddaros- tyngedig iddo. Y mae yn naturiol i bobl ammheu y doethineb o drosglwyddo i'w cyrff, neu i gyrff eu plant, beth mor fíiaidd a gwrthwynebus a'r llŷn sydd yn ymgrynoi ar anifail afiacbus; ac nid oes dim ond tystiolaeth gadarn ffeith- iau a gyfiawnhâ rieni ac ereill a osod- ant blant eu gofal dan y fathdriuiaeth Ond y mae'r dystiolaeth hon ar gael; ac er mwyn sicrhau unrhyw rai a betrusant yng nghylch eu dyledswydd i ufuddhau i gyfreithiau'r wlad sydd yn gorchyrnmyn gosod brech y fuwch ar bob plentyn cyn iddo gyrhaedd tri mis oed, dan ddirwy o ugain swllt, rhoddwn yma rai ystadegau a gy- hoeddwyd dan awdurdod yn Lloegr a gwledydd cyfandir Ewrop. Gellir sylwi hefyd mae plant yn fwy agored i'r frech wen na phobl mewn oed. O'r nifer a fuont feirw o'r frech wen 16—xv. yn y chwéch mlynedd 1856—1861, yr oedd mwy na'r bedwaredd ran yn blant dan ddeuddeg mis oed. Cyn darganfyddiad effaith gosod brech y fuẅch—neu yn hytrach cyn y flwŷddyn 1796, sef y flwyddyn y darfn i Jenner roi y cyfryw am y tro cyntaf ar fachgen o'r enw Phipps (o blegid y mae yn debygol iddo fod yn wybodol o'i heffaith gadwedigol mor gynnar a 1770), yr oedd yn beth arferoí i osod y frech wen nid yn y deyrnas hon yn unig, ond mewn gwledydd tramor hefyd. Dywedir fod yr arfer o osod y ftech wen yn adnabyddus yn China tua'r chweched gaurif, a rhai a haerant yr un peth mewn perthynas i'r Alban a Chymru. Ond y niae cofrestrau yr Inoculation Hospital yn dangos, tra yr oedd uu yn marw am bob pump neu chwech o'r sawl a gawsant y frech mewn modd naturiol, uid oedd y marwol- aethau ym mhlith y rhai a'i cawsant trwy osodiad ond tri mewn mil. Er hyn, tra yr oedd y ddyfais i raddau helaeth yn diogelu y sawl a gawsánt y frech trwy osodiad, rhag perygl bywỳd, a rhag cael eu taro ganddi drachefn, yr oedd ereill yn derbyn yr haint oddi wrthynt, ac yr oedd y clefyd yn cael ei daenu ar led trwy yr arfer, fel y cododd y marwolaethau