Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF," Rhif. 169. IONAWR, 1871. Cyp. 15. NAD YW RHYFEL YN DDEWG DIGYMMYSG Gellir gofyn, A oes rhyw ddaioni yn deillio o ryfeìoedd? Yn fynych mae llawer o ddaioni yn deillio o ryfeloedd, er eu bod hefyd rai prydiau yn ddrwg digymmysg. Mae rhyfel, ynddo ei hun, yn un o'r fflangellau mwyaf trwm a chwerw a all ddisgyn ar wlad. Golygir ef yn yr Ysgrythyr yn un o bedair dryfarn yr Hollalluog ar genedl am ei phech- odau.. Newyn a haint, a bwystfil niweidiol, yw y tair barn arall. Ac o'r pedair drygfarn, rhyfel, ond odid, yw y farn fwyaf lymdost; canys mae effeithiau newyn, a haint, a bwystfil niweidiol, yn dilyn carlam- iadau y march coch. Ond mae Ehagluniaeth gan mwyaf yn goruchreoli rhyfel, i beri iddo, yn y canlyniad, fod yn ffynnonell o dded- wyddyd gwladwriaethol. Mi a nodaf yma ychydig esamplau. Y rhyfel mwyaf trychinebus, ef allai, yn y cynamseroedd oedd y rhyfel rhwng y Persiaid a'r Groegiaid, 490 a 480 míynedd cyn Crist. Can- lyniad y rhyfel tost hwnw, yn yr hwn yr oedd y Groëgiaid yn fuddugol- iaethus, oedd dyrchafiad y genedl hòno i ben pinacl uchaf diwylliáeth, a dysg, a thalent, fel ag i fod o hyny allan hyd y dydd heddyw yn brif athrawes y byd mewn gwybodaeth, a ' 1—XV. philosophi, a barddoniaeth, a hanes- yddiaeth, a ehelfyddyd. Y rhyfëloedd dychrynilyd nesaf oedd rhyfeloedd Alecsander Fawr, trwy y rhai, yn ei waith yn gorchfygu y Persiaid a llawer o genedloedd ereill, y diwylliwyd ac y gwareidd- iwyd cymmaint ar y byd dwyreiniol, heb law sicrhau rhyddid Ewrop rhag ymosodiadau barbariaid y dwyreinfyd. Ehyfeloedd ofnad wy ereili oedd rhyfeloedd yr hen Eufeiniaid, yn y drydedd ganrif cyn Crist, yn erbyn Hannibal yr Affricaniad. Fe fu y buddugoliaethau Ehufeinig ar y rhy- felwr mawr hwnw yn achlysur ail- ddiwylliad gwyneb y byd, ar ol i fuddioldeb rhyfeloedd Alecsander Fawr ddiflanu a gwywo i raddau helaeth. Yn y gorchfygiad hwnw y cafodd y Rhufeiniaid nerth i orch- fygu'r byd, ac i sefydlú ymherodraeth gwareiddiad ar falurion a chwalfëydd pob math o farbareidd-drá, yn baro- toad i lwyddiant yr Efengyl. Ehyfeloédd arswydus ereill oedd Ehyfeloedd y Groes (Crusades), y rhai a barhasant am oesoedd, ac yn y rhai yr enwogodd rhai o hen freninoedd Llòegr a Ffrainc gymmaint arnynt eu hunain, ac yn y rhai y gorchfyg- wyd y Saraceniaid gan ein Eichard Galon Llew, er mai y Saraceniaid a