Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. "yng ngwyneb haul a llygad goleuni.' "a gaib duw yn uchap." Rhif. 167. TACHWEDD, 1870. Cyp. 14. ENWOGION YE EGLWYS. YR ARCHESGOB USSHER. PENNOD I. Ganwyd y prelad duwiol, dysgedig, ac enwoghwnyny flwyddyn 1580, ymmhlwyf Sant Nicholas, Dulyn. Yr oedd ei deulu yn feddiannol ar lawer o gyfoeth yn y adinas hòno. Gelwir llawer o'r heolydd hyd heddyw ar enw y teulu. Symmudodd ei hynafiaid i'r Iwerddcn yn amser y Brenin Ioan, yn llys yr hwn yr oedd un yn dal y swydd o usher: ei enw oedd Neville. Caíbdd ei alw yn Ussher oddi wrth ei swydd, fel llawer o swyddogion y Uys. Yr oedd tad Ussher yn un o ysgrifenydd- ion yn y canghell-lys yn yr Iwerddon; yr oedd ei fam yn ferch i James Stani- hurst, Pabydd, a llefarydd y Ty Cyfîredin Gwyddelig. Yr oedd ei ewythr Henry Ussher, archddiacon Dulyn, yn archesgob: yr oedd ef yn brelad doeth a dysgedig. Cymmerodd ran bwysig yn y gwaith o sefydlu Coleg y Drindod, Dulyn. Dangos- odd ei nai James Ussher duedd gref at ddarllen a dysgu pan yn ieuanc. Mae un peth yn hynod mewn cyssylltiad â'i addysg foreuol—dygwyd ef i ddarllen gan ddwy fodryb iddo, y rhai oeddynt wedi bod yn ddeillion o'r cryd. Darfu iddynt blanu egwyddorion crefyddol ynddo yn fore. . Pan °edd yn wyth mlwydd oed, cafodd ei osod dan ofal James Hamilton a James Fullerton, ysgolfeistriaid enwog a anfon- wyd ì'r Iwerddon gan Iago VI. Yr oedd- ynt ìll dau yn ysgolheigion o fri; yr oeddynt gyda'r cymmrodorion cyntaf ym Mhrifysgol Dulyn. Dywedir mai mewn hen ystafell uwch ben Eglwys Sant Padrig y derbyniodd Ussher elfenau cyntaf dysg- eidiaeth. Yma yr oedd yr Albaniaid yn cadw ysgol. 41—XIV. Bwriadwyd defnyddio yr arian ag oedd yn perthyn i'r hen Eglwys Gadeiriol i gynnal y Brifysgol newydd. Gwrthwy- nebodd yr Archesgob Loftus y cynnyg; a thrwy gydweithrediad yr awdurdodau, cafwyd y tir, lle y saif y coleg yn awr, i adeiladu arno. Arosodd Ussher yn yr ys- gol am bum mlynedd. Yn y flwyddyn 1593, cafodd ei dderbyn i'r coleg, yr hwn oedd newydd ei orphen; ac mae enw James Ussher yn sefyll yn flaenaf ar gyfres yr ysgolheigion. Yn fuan wedi hyny, aeth yno Walter Travers, y Puritaniad, a chydbregethwr â Eichard. Hooker yn y Temple; Eullerton a Hamil- ton, a'r enwog William Daniel, wedi hyny archesgob Tuam, yr hwn a gyfieithodd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi i'r Wyddelaeg. Er cymmaint o demptasiynau oedd ar ei ffordd, a'i hoffder o chwareu cardiau, tafl- odd y cwbl o'r neilldu, ac ymroddodd â'i holl egni i ddysgu. Pan gafodd ei raddio, yr oedd yn feistr ar lyfrau y coleg. Yr oedd yn hanesydd galluog, ac yn ddadl- euwr enwog. Yr oedd ei dad am ei ddwyn i fyny yn y gyfraith; ond ni chymmerodd hyn le. Bu farw ei dad, a chafodd fod yr etifeddiaeth mewn dyryswch. Ehoddodd bron y cyfan i'w deulu; ni chadwodd ond digon at ei gynnal yn y coleg. Ymladdodd ornest ddadleuol pan oedd yn bedair ar bymtheg oed, â Henry Pitz- symonds, un o ysgolheigion Ehydychain, yr hwn oedd wedi myned drosodd i Ruf'ain, a Iesuitiad, yr hwn oedd wedi herio pawb i ddadleu ag ef ar Eglwys Rhufain a'r , Eglwys Ddiwygiedig. Daeth ein arwr ieuanc ym mlaen. Yr oedd y Iesuitiad yn