Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

H A U L €rftw €mŵ\Ml YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. Í(A GAIR DUW YN UCHAP." Rhif. 165. MEDI, 1870. Cyp. 14. TEYDYDD YMDDANGOSIAD YE IESU I'W DDYSGYBLION AR OL EI ADGYFODIAD. Mae'r hanes am yr ymddangosiad hwn i'w gweled yn y bennod olaf o Efengyl Sant Ioan. Ymddengys fod y bennod hon wedi cael ei hysgrifenu ryw ennyd o amser ar ol y pennodau ereill; canys y mae hi megys yn sefyll wrthi ei hun. Mae yr adnod yn niwedd y bennod flaenorol yn swnio fel pe buasai Sant Ioan unwaith yn bwriadu terfynu ei Efengyl yn y fan hòno: "Eithr y pethau hyn a ysgrifenwyd, fel y eredoch chwi mai yrlesu yw y Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw Ef."—Pen. xx., adn. 31. Felly, gan fod yr adnod hon megys yn derfyniad i'r Efengyl, mae yn ymddangos i mi mai math o attodiad yw'r bennod olaf, sef yr unfed ar hugain. Yn achlysurol yn unig y byddai ein Hiachawdwr yn ymddangos i'r dysgyblion ar ol ei adgyfodiad o feirw. Ni byddai gyda hwynt yn wastadol, fel cyn ei farwol- aeth. Ac o achos hyny, ni byddai'r dysg- yblion chwaith ddim yn cadw yng nghyd yn un cwmpeini, fel y byddent cyn hyny: diau y byddent yn dilyn eu gwahanol alwedigaethau. Ond ar yr achlysur presennol, yr oedd saith o honynt yn dygwydd bod gyda'u gilydd ar lan Môr Tiberias, lawer o fìlltir- oedd o ddinas Ierwsalem; ac yr oedd rhai o honynt yn brif ac enwocaf o'r un ar ddeg. Yr oedd yma Simon- Pedr, yr hwn a wnaethai gyffes mor ogoneddus o'r Iesu yn Cesarea Philippi: "Ti yw y Crist, Mab y Duw byw;" ond ar ol hyny a'i gwadasai Ef mor gywilyddus yn llys yr archoffeir- iad; ond efe a edifarhaodd yn ebrwydd ac yn chwerwdost. Yr oedd yma hefyd Thomas, y Didymus yr hwn a wrthododd gredu ei fod Ef wedi adgyfodi o feirw, hyd nes cael rhoi ei law yn ei ystlys Ef, a chyffwrdd ol 33—XIV. yr hoelion â'i fysedd. Yr oedd yma hefyd Nathanael o Gana Galilea (Bartholomëus, mae yn ddiammheuol), am yr hwn y dy- wedasai Crist, "Wele Israeüad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll." Ac yr oedd yma hefyd ddau fab Sebedëus, Iago ac Ioan; lago oedd y cyntaf a ferthyrwyd o'r Apostolion; lladdwyd ef â'r cleddyf gan Herod; a Ioan oedd y dysgybl anwyL yr hwn a fu farw yn ddiweddaf o'r Apostoíion. Efe oedd yr hwn a ysgrifenodd yr hanes sydd yn awr dan sylw. Ac yr oedd yno ddau ereill hefyd o'r dysgyblion, y rhai nis crybwyllir eu henwau. Yr oedd Pedr, a'r lleill hefyd mae yn debygol, fel y crybwyllais, yn dilyn eu galwedigaethau gan mwyaf ar ol adgyfod- iad eu Hathraw; ac efe a ddywedodd wrth y chwe dysgybl arall ag oeddynt yn dygwydd bod yn y fan a'r lle, " Yr ydwyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi." Ac i'r llong yr aethant ill saith: Pedr, Thomas, Nathanael, meibion Sebedëus, a dau ddysgyl arall. Yr oedd yn awr yn brydnawn. Buant ar hyd y nos hòno yn pysgota; ond ni lwyddasant i ddäl dim. Ond o'r diwedd, f'e wawriodd y boreu ar y Pysgotwyr lluddedig ac aflwyddiannus; ac yr oeddynt yn awr yn tynu at y tir; ac yr oedd yr Iesu ei hun yn sefyll ar y lan, ger llaw iddynt; ac Efe a ofynodd iddynt, mewn dull cyfeillgar, a llawen, a serchog- aidd, "0 blant, a oes genych chwi ddim bwyd?" Hyny yw, mae yn debyg, A ydych chwi wedi dal dim pysgod bwytad- wy? Hwythau a atebasant iddo, "Nac oes." Hyd yn hyn, nid oedd y dysgyblion ddim yn gwybod mai â'r Iesu yr oeddynt yn siarad. Yna medd Efe wrthynt, "Bwr- iwch y rhwyd i'r tu deheu i'r llong, a