Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R HAÜL. €\lm ẅrít}rìèii. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR, DUW YN UCHAP." Rhip. 163. GORPHENAF, 1870. Cyp. 14. ENWOGION YR EGLWYS. RICHARD HOOKER. Y mae enw Richard Hooker yn sefyll yn lleehres flaenaf enwogion Eglwys Lloegr. Yr oedd yn enedigol o Heavitree, ger llaw Ecseter. Yr oedd sir enedigol Hooker yn dra thoreithiog mewn enwogion; yno y ganwyd Jewell, yr esgob enwog, Syr Francis Drake, a Syr Walter Raleigh. Caf'odd Hooker ei eni mewn amser lled beryglus i'r grefydd Brotestanaidd, O.C. 1553. Yr oedd y Diwygiad mewn perygl o gael ei ddiwreiddio o'r wlad gan y Eren- ines Mari a'i chynghorwyr erlidgar. Yr oedd Cranmer, Ridley, a Latimer mewn cadwj'nau yn y Tŵr; ac yr oedd calonau dynion yn ymollwng gan ofn pan oeddynt yn edrych ym mlaen ar yr hyn oedd i gymmeryd lle yn Lloegr. Dyddiau geirw- on a thymmestlog oedd y rhai hyn—môr erlidigaeth â'i dònau yn rhuo. Yng nghanol yr ystorm ganwyd Richard Hooker, ym mherson yr hwn y cafodd y ffydd oedd yn awr mewn perygl o gael ei dadymchwelyd, genadwr ffyddlawn. Nid oes dim llawer o hanes ei rieni ar gael. Y mae yn ymddangos eu bod yn troi mewn cylch isel, mor bell ag y mae da y byd hwn yn myned. Os nad oedd gan- ddynt gyfoeth daiarol, yr oeddynt yn ddiwyd gasglu trysorau, y rhai y gall dyn gludo i'r ochr draw i'r bedd. Y mae yn amlwg iddynt dalu sylw manwl i'w plant, y rhai a dderbyniasant addysg foreuol. Dangosodd Richard o'r dechreu awyddfryd am gyrhaedd gwybodaeth. Gwnaeth gyn- nydd cyflym anarferol mewn dysgeidiaeth tu hwnt i'w gyfoedion, nes synu pawb. Gwelodd yr ysgolfeistr yn fuan fod y bachgen yn feddiannol ar alluoedd uchel; a gwnaeth yr hyn oll oedd ÿn ei allu i ddadblygu ei alluoedd a'u meithrin. Oni 25—xiv. buasai caredigrwydd ei athraw, buasai i'r seren ddysglaer hon gilio o'r golwg mewn dinodedd gyda'i bod yn dechreu tywynu. Buasai Hooker wedi cael ei osod yn egwyddorwas yn Ecseter gyda gof oni buasai caredigrwydd ei athraw, fel na fuasai dim son am dano yn fwy na rhvw blentyn arall; ond nid f'elly y trefnodd Rhagluniaeth iddi fod. Ar daer ddymun- iad yr athraw, penderfynodd ei rieni beidio ei gyflogi fel egwyddorwas: yr oedd yr ysgolfeistr yn ddyn o natur dda. Pan gaf'odd allan nad oedd rhieni Hooker yn alluog i dalu am ei ysgol, dywedodd ei fod yn foddlawn i'w addysgu am ddim. Ti-eul- iodd lawer o'i amser yn yr ysgol hon, hyd nes oedd yn addas i fyned i'r brifathrofa; ond nid oedd dim arian i'w cael i ddwyn y draul; ond yr oedd ganddo ewythr cyf- oethog o'r enw Richard, canghellydd Ecseter. Aeth yr ysgolfeistr ato i eiriol dros ei nai, er cael cymhorth i'w anfon i'r brifysgol, a llwyddodd; addawodd dalu y draul; ond y peth goreu a wnaeth drosto oedd ei ddwyn i sylw yr Esgob Jewell, Caergaradog, â'r hwn yr oedd ef yn adna- byddus. Ym mhen saith mlynedd wedi hyn, aeth at yr esgob, i ddeisyf' arno gym- meryd ei nai dan ei nodded. Yr oedd Jewell wedi gweled llawer o droion yn y byd. Nid oes dim yn tueddu i greu cyd- ymdeimlad yn gynt na phrofiad. Cafodd Richard wrandawiad caredig; ond nis gaJlasai wneyd dim ar hyn o bryd, o blegid nad oedd yn gwybod dim am deil- yngdod y bachgen. Dywedodd ei fod yn barod i weled y nai, yr hwn oedd Natur wedi barotoi i fod yn ysgolhaig; adymun- odd ar y canghellydd ddyfod yno y Pasc a'i nai gydag ef. Daeth y Pasc o amgylch;