Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L Útfm €mtyxììin. " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 160. EBRTLL, 1870. Cyp. 14. ENWOGION YR EGLWYS. DOCTOR JDAYIES O FALLWYD. Yn ein nodiadau ar Fawddwy ychydig amser yn ol, addawsom roddi hanes by wyd y gwr enwog uchod. Yn amser y Diwygiad Protestanaidd, daeth lluaws o dalentau ysblenydd i'r amlwg yng Nghymru, yu gystal a Lloegr, y rhai oedd yn enwog am eu dysg, eu duwioldeb, a'u hathrylith. Dywedir wrth- ym gan elynion yr Egiwys Gymreig, nad oes dim dynion o ddysg, duwioldeb, na thslent, wedi nac yn bod yn yr Eglwys. Camsynied dybryd yw hj'n; ac y mae yn amlwg ei f'od yn tarddu oddi ar anwybod- aeth neu ragfarn dychrynllyd: yr ydym yn hanner credu mai yr olaf' yw y gwir achos; canys nis gallwn yn ein byw gredu fod un dyn, ag sydd wedi darllen dim, a aìl wadu nad oes cystal dynion wedi ac yn perthyn i'r Eglwys ag a fagodd un- rhyw wlad erioed. Heb son am y rhai a fu, gallwn osod yr offeiriaid presennol i sefyü wrth ochr unrhyw Ymneilldüwr a Phabydd y diwrnod a fynom, heb wrido. Ym mhlith y talentau dvsglaer a ddad- blygwyd yn amser y Diwygiad, y mae Dr. John Davies o Eallwyd yn sefyll yn y rhestr tìaenaf. Càfodd y gwr enwog hwn ei eni ym mhlwyf Llanferes, sir Ddinbych, Gogledd Cymru. Dywed llên y werin mai mab i wëydd oedd; ond y mae'r beirdd ag oedd yn cydoesi ag ef, i'r rhai y mae yn lled debyg yr oedd yn noddwr, yn dj/wedyd ei f'od yn ddisgynydd o'r hen dywysogion Cymreig. Nis gellir ammheu nad oedd llawer o wirionedd yn yr hyn a ddyw«ád- ant, er eu bod weithiau yn hoffi myned i eithafion. Y mae yn ddichonadwy fod ei deulu wedi dyfod i lawr yn y byd, fel y dywedir. Yr oedd crefft gwëydd yn fwy 13—xiv. parchus yng Nghymru cyn i nwyddau Manceinion a Chaerefrog ddyfod i ym- arferiad; ond nid yw hyn o gymmaint pwys. Dyn yw dyn wedi y cyfan. Nid ydyw dyddiad ei enedigaeth yn wybyddus; ond" bernir iddo gael ei eni tua'r fiwyddyn 1570. Dywed traddodiad iddo gael ei addysgu yn Ysgol Ruthin, dan of'al Parry, wedi hyny Esgob Parry; ond nid yw hyn yn gywir. Aeth Dr. Davies i Rydychain chwech mlynedd cyn i Ysgol Ruthin gael ei sefydlu (1595); ac ni fu Parry, yr hwn oedd yn esgob y pryd hwnw, erioed yn athraw yn yr ysgol hòno, yn yr hon y cafodd lluaws o ddynion enwog eu haddysgu. Aeth Dr. Davies i Goleg yr Iesu ar y cyntaf, a symmudodd wedi hyny i Goleg Lincoln. Daeth i sylw cyn iddo fyned i'r Brif'ysgol, o herwydd ei gyssylltiad â chyfieithad Dr. Morgan o'r Ysgrythyrau yn yr iaith Gyraweig. Caf- odd y cyfieithad hwn ei gyhoeddi yn 1588. Cyn yr amser hwn, yr oedd y Beibl yn llyfr seliedig i'r Cymry, o leiaf yr Hen Destament. Yr oedd yn ofynol caei llawer o ddysg ac adnabyddiaeth â'r ieithoedd gwreiddiol, yn gystal a'r iaith Gymreig, i gyflawnu y gwaith pwysig hwn. Nid oedd gan y Dr. Morgan ond ychydig o gydweithwyr. Ym mhlith y rhai a ddarfu iddo ddewis i'w gynnorthwyo yr oedd Mr. John Davies, j'r hwn oedd yr amser yma yn ddyn ieuanc. Nis gallasai wneyd gwell dewisiad. Er fod cyhoeddiad cyfieithad Dr. Morgan yn gyfnod o bwys yng nghrefydd a llenyddiaeth Cymru, nid oedd ei gyfieithad yn ddifai. Y mae yn wy- byddus fod amryw welliantau wedi cym- meryd lle yn y Beibl Seisonig; nid yw o un sftifri i Dr. Morgan a'i gydlafurwyr