Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R HAÜL. YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DÜW YN ÜCHAP." Rhif. 159. MAWIITH, 1870. Cyp. 14 FOD GODDEFIAD Y RHAI A HALOGID WRTH GORFF MARW I GADW'R PASC, YN GEFNOGAETH I NI DDYFOD I'R CYMMUN. Yr oedd y gyfraith seremonîol yn nodedig o fanol yng nghylch cymhwysder yr addolwyr, sef am iddynt ymgadw rhag aflendid seremonîol; ac yr oedd yr achos- ion o aflendid seremonîol yn lluosog iawn o ran eu nifer. Yr oedd pawb yn aflan a fyddai yn ddiferllyd, neu a gyffyrddai â dim yn perthyn i neb gwahanglwyfus neu ddiferllyd, neu a ddeuai i dy neb ag oedd yn wabanglwyfus, neu a fwytäi gig anifail aflan, neu a gyffyrddai â'i furgyn ef. Ond un o'r pethau mwyaf hynod ag oedd yn aflanhau dyn oedd, bod iddo gyffwrdd â chorff marw. Er esampl: mae'r geiriau hyn yn Numeri v. 2, 'íGorchymmyn i feibion Israel anfon allan o'r gwersyll bob gwahanglwyfus, a phob un y byddo difer- lif arno, a phob un a halogir wrth y marw." Yr oedd y cyfryw yn cael eu cau allan oddi wrth aberthu a chadw'r gwyliau, ac yn wir oddi wrth bob peth cyssegredig. II. Ar yr ail flwyddyn ar ol y dyfodiad o'r Aipht, pan oedd y bobl wrth odre mynydd Sinai, cadwyd Pasc i'r Arglwydd. (Gwel y nawfed bennod o Lyfr Numeri.) Ond yr oedd rhyw ddynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn (ac ef allai mai tad neu frawd ydoedd), y rhai, o herwydd hyny, ni allent gadw'r Pasc y dydd hwnw. (Yr oedd y cyfryw i ym- lanhau â'r dwfr neillduaeth ar y trydydd dydd ar ol y cyffyrddiad â'r corff, ac ar y seithfed dydd, hwy a fyddent yn lân; ond mae yn amlwg fod yr amser yn rhy fyr ar yr achlysur hwu.) Yr oedd yn galedi dirfawr ar y dynion truain hyn fod yr amgylchiad yn rhwystr iddynt gadw'r Pasc gyda'u brodyr; ac mae yn debygol nas gallent wrth yr am- gylchiad, ac nad oedd ganddynt mo'r help, os caniatëir mai perthynas agos iddynt 9—XIV. oedd yr hwn y cyffyrddasent â'i gorff. A hwy a aethant, yn eu cyfyngder, i gwyno eu helynt flin wrth Moses ac wrth Aaron: "A dywedasant, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw: pa» ham y'n gwaherddir rhag offrymu offrwm i'r Ar- glwydd yn ei dymmör ym mysg meibion Israel?" Yr oedd Moses yn wr llariaidd ac add^ fwyn, ac yr oedd yh ddiau yn cydymdeimlo â hwynt yn eu cyfyngder hwn. "A dy- wedodd Moses wrthynt, Sefwch; a mi a wrandawaf beth a orchymmyno yr Ar- glwydd o'ch plegid." Felly efe a aeth i ymgynghori â'r Arglwydd ar eu rhan hwynt. Yr oedd yr Arglwydd yn llarieidd- ach ac yn addfwynach hyd yn oed nag y bu Moses ei hun erioed. A'i atebiad gras- lawn i Moses oedd fel ycanlyn:—"Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Paa fyddo neb wedi ei halogi wrth gorff marw, neu neb o honoch neu o'ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basc i'r Ar- Ar y dechreu, yr oedd y drws wedi ei gau yn erbyn y cyfryw, fel na allent gadw'r Pasc, na gwneuthur un aberthiad arall; ond yn awr, fe agorodd y Duw tosturiol a daionus y drws iddynt, fel na byddai cyffyrddiad â chorff marw dyn ddim mwyach yn rhwystr iddynt gadw gwyl y Pasc. Yr oedd hefyd, ar y dechreu, yn anghyfreithlawn i neb aberthu aberth gartref; yr oedd raid dwyn pob aberth at ìddrws pabell y cyfarfod, i'w ladd yno. Ond yn awr, fe agorodd yr Arglwydd y drws yn fwy llydan nag yr oedd Moses yn deisyf, ac a ganiataodd i'r sawl a fyddent yn byw yn rhy bell oddi wrth y cyssegr, íadd yr oen Pasc gartref, yn eu teiau eu hunain. Yr oedd hyn yn helaethach a