Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rhtf. 34. EHAGFYR, 1862. cyf. III. Pen. II. Y BEDYDDWYE, YN Y GWAHANOL OESAIJ, A THAN WAHANOL ENWAU, &c. Gan íy mod wedi deohreu ysgrifenu ar y pwne hwn, a ehan fod rhan o Draethawd rhagorol y Parch. R. Ellis, ar Hanes^ y Bedyddwyr, yn ateb i fod yn ail bennod ar y pwnc, yr wyf yn gosod y cyfryw ddarn i mewn yn fy lìhifyn presenol; gan fy mod yn gwybod ei fod yn ddyeithr i gannoedd o fy narllen- wyr. Gyda llaw, trueni na fyddai y lîyfryn hwn o eiddo Mr. Ellis, yn llaw holl bobl ieuainc ein cynnulleidfaoedd. Yr wyf yn meddwl y gellir cael y llyfr etto, os anfonir at yr Awdwr, neu at yr Argraffydd, i Langollen. HYŴAFIAETH Y BEDYDDWYR. Gan nas gallwn gael dechreuad y Bedyddwyr yn Germani, yn y íiwyddyn 1521, rhaid myned i " ddyfnderau pell hyn- afiaeth " i edrych am danynt. Dechreuwn yn y Testament Newydd. Yr ydym ni, wrth reswm, yn barnu mai Bedydd- wyr oedd yr holl Gristionogion apostolaidd, ac am hyny, yr ydym ninau yn Pedyddwyr. Ystyriwn ein hunain yn hỳn na dim creíÿddwyr ereill, fel nas gallwn fod yn ymneillduwyr oddiwrth neb rhyw Gristionogion, ond mai " oddiwrthym hl yr aethant hwy allan," ac mai dirywiad oddiwrth egwyddorion y Bedyddwyr yw pob ffurf arall o Gristionogaeth. Yr ydym ninau yn ymneillduwyr gwreiddiol oddiwrth yr eglwys Iudd- ewig. (Act. xix. 9.) " Rhwymyn undeb, yn mhlith ein cyf- enẃad yn mhob oes," ebai Orchard, " oedd ffÿdd yn Nghristj a'r ffydd hono yn cael ei hamlygu yn gyhoeddus, mewn ymos- tyngiad gwirfoddol i'w awdurdod a'i athrawiaeth yn y bedydd."