Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. IIHIF. 30. AWST, 1862. cvf. III. $tm jaii^agMöL JUBILI ABEEDAll. Ddarllenydd Hoff,—Gwyddost nad yw yn arferiad genyf i roddi o'th flaen hanesion cyfarfodydd fel rheol, ond y maent yn dywedyd " nad oes un rheol heb eithriad," a theiml- wyf' finau íbd rhyw beth neu bethau yn nodweddu ambell i gyfarfod neu res o gyfarfodydd fel ag i gyfiawnhau i minau wneyd eithriad. Darfu i Esgob Caerodor a Chaerbaddon unwaith alw un o offeiriaid ei Esgobaeth i gyfrif am fyned i wrandaw Robert Ilall yn pregethu. " Paham," gofynau yr Esgobi " yr aethoch i wrando pregethwr y Baptist ? Oni wyddoch ei bod yn rheol, nad yw yr offeiriaid i fyned i gefh- ogi Ymneillduwyr ?" " Gwn," oedd ateb yr offeiriad, " ond nid oes rheol heb eithriad, ac mae y Parch. Robert Hall yn eithriad i bob pregethwr arall, a chan fod Duw wedi myned a'i ffordd i wneyd eithriad yn mherson a chymmeriad líobert Ilall, meddyliais mai nid trosedd mawr i minau wneyd eithr- iad trwy fyned o'm ffordd i wrandaw am unwaith." "0," oedd ateb yr Esgob, a gadawwyd y pwnc yn y fan yna. Ar y Sul a'r Llun cyntaf yn Áwst, bum yn cyfeirio fy hgwydr ac yn gostwng fy nghlust at Gapel Calfaria, yn Aber- clâr, a gwelais a chlywais bethau rnawrion a phwysig, ac mae arnaf awydd eu dywedyd wrthyt tithau, pe byddai genyf amser a Úe. Mae hyny allan o'r pwnc, a rhoddaf i ti drem fach o'r hyn a gymmerodd le yno. Yfí y flwyddyn 1812, yr oedd ychydig bach, bach, o Fedyddwyr yn Aberdâr wedi anturio codi capel yn y plwyf. Dyma y capel cyntaf gan y Bedyddwyr yn mhlwyf Aberdâr. A chan mai hon oedd yr hanner-canfedflwyddyn er hyny, ÿr oedd yr eglwys wedi penderfynu cadw cyfarfodydd coffadwr-