Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bhií. 28. MEHEFIN, 1862. cíí. III. 8t«m gra^gííM BEDYDDIAD Y PAECH. A. W. MUEBAY. Dtma un Cenadwr etto at amryw o'i fiaen, wedi gadael maes y maban-daenelliad, a dyfod drosodd i'r maes y pregethir holl gynghor Duw, ac yr ymdrechir cadw ei holl orchymmynion. Yr oedd y Parch. A. W. Murray a'i wraig wedibodynllafurio yn Ynysoedd Môr y Dè am yn agos bum mlynedd ar ugain, yn genadon mewn cyssylltiad â'r London Missionary Society. Ar yr 20 o Chwefror diweddaf, bedyddiwyd ef a'i wraig yn nghapel y Bedyddwyr, Bathurst Street, Awstralia, gan y Parch! James Voller. Yr oedd yno dorf luosog iawn yn edsych ac yn gwrando ar yr amgylchiad; ac 'roedd yr amgylchiad yn bwysig a dyddorol iawn. Er roddi i'm darllenwyr resymau y dyn da ac enwog hwn dros ei ymddygiad yn uno â'r Bed- yddwyr, nis gallaf wneyd yn well nâ'u rhoddi yn ei eiriau ef ei hun yn yr araeth a draddododd cyn myned i waered i'r dwfr, yr hon gafodd ddylanwad neillduol ar yr holl dorf, ac y mae fel y canlyn:— " Fy Nghyíëillion Cristionogol,—Yr ydych yn ddiau wedi ymgasglu yma heno, yn dysgwyl clywed genyf eglurhad ar y sefyllfa yn yr hon yr ydwyt yn sefyll yn awr o'ch blaen, yn nghyd â- chlywed fy rhesymau dros yr hyn yr ydwyf yn nghylch ei gyflawni. Mae yr amgylchiadau yn neillduol, ac ymddengys y dylid, er mwyn ereill yn gystal ag er fy mwyn íÿ hun, roddi eglurhad arnynt, " Maeamryw bethau, o gwrs, yn gyssylltiedig â'r amgylchiad sydd heb fod yn hyfryd i'm teimlad mewn un ystyr, ond, rhaid i bethau llai roddi ffordd i bethau mwy—^yr wyf yn ar- gyhoeddedig o'm dyledswydd. Mae i ddyn ddodi ei hun mewn sefyllfa sydd yn dangos ei fod ef wedi byw flynyddoedd mewn